Cyhoeddwyd: 7 Hydref 2024
O 9 Hydref, bydd pobl 50 oed yng Nghymru yn dod yn gymwys i gael prawf sgrinio’r coluddyn drwy’r GIG. Bydd y rhai sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yn derbyn pecyn prawf sgrinio’r coluddyn am ddim yn awtomatig bob dwy flynedd. Mae pobl 51-74 oed eisoes yn gymwys ar gyfer y rhaglen.
Disgwylir y bydd ehangu sgrinio i bobl iau yn helpu i ganfod canser y coluddyn yn gynharach, gan gynyddu'r tebygolrwydd o driniaeth lwyddiannus.
Dywedodd Steve Court, Pennaeth Sgrinio Coluddion Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn falch o fod yn ehangu rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru i gynnwys pobl 50 oed. Mae canfod yn gynnar yn allweddol i frwydro yn erbyn canser y coluddyn, a gall sgrinio nodi arwyddion cyn i symptomau ymddangos hyd yn oed. Rwy’n annog yn gryf bawb sy’n gymwys i gymryd rhan pan fyddant yn derbyn eu pecyn. Gall y prawf syml, hawdd ei ddefnyddio hwn wella cyfraddau goroesi yn sylweddol trwy ganfod canser yn gynnar, pan fydd yn haws ei drin.”
Ychwanegodd Naser Turabi, Cyfarwyddwr Tystiolaeth a Gweithredu yn Cancer Research UK:
“Bydd gostwng yr oedran sgrinio i 50 yn rhoi cyfle i fwy o bobl yng Nghymru ddal canser y coluddyn yn gynnar. Mae diagnosis cynnar yn hollbwysig. Mae mwy na 9 o bob 10 o bobl sy’n cael diagnosis yn y cyfnod cynharaf yn goroesi pum mlynedd neu fwy, o gymharu â dim ond 1 o bob 10 pan gânt ddiagnosis ar y cam mwyaf datblygedig.”
Mae sgrinio coluddion ar gyfer pobl heb symptomau. Os byddwch chi'n sylwi ar newidiadau yn eich arferion coluddyn, mae'n bwysig siarad â'ch meddyg teulu, hyd yn oed os ydych chi'n cymryd rhan mewn sgrinio.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynnal ymgyrch sy’n annog pawb 50-74 oed i fanteisio ar y cynnig o sgrinio’r coluddyn. Mae deunyddiau ymgyrchu ar gael i’w lawrlwytho a’u rhannu o Lyfrgell Asedau Iechyd Cyhoeddus Cymru.