Neidio i'r prif gynnwy

OBE i Tracey Cooper yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 

31 Rhagfyr 2024 

Mae’r Prif Weithredwr Dr Tracey Cooper wedi cael ei dyfarnu’n Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2025. 

Rhoddwyd y wobr i Tracey am wasanaethu Gofal Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd. 

Dywedodd Tracey: “Rwyf wrth fy modd i dderbyn yr anrhydedd hon. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i holl staff a thimau Iechyd Cyhoeddus Cymru am eu holl ymdrechion, oherwydd hebddynt, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl. Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel â digon i’w ddathlu, felly mae’r wobr hon yn cydnabod popeth rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.” 

Dywedodd Pippa Britton OBE, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Roeddwn yn falch iawn o glywed y newyddion heddiw. Mae'r wobr yn gwbl haeddiannol am y gwaith diflino y mae Tracey wedi'i wneud dros iechyd y cyhoedd yng Nghymru a thu hwnt. Mae ei brwdfrydedd a'i hegni wedi ei gwneud hi'n arweinydd uchel iawn ei pharch yn y sefydliad a thu allan iddo, ac rwy'n teimlo'n ffodus iawn i weithio gyda hi. Llongyfarchiadau, Tracey.” 

Dywedodd Huw George, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Llongyfarchiadau mawr ar ran y tîm gweithredol i Tracey am dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Rydyn ni i gyd yn hynod falch ohoni. 

“Mae Tracey wedi dangos arweinyddiaeth eithriadol drwy gydol ei gyrfa ac wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r sefydliad a’r GIG yn ehangach. Mae hi bob amser wedi bod yn frwd dros gefnogi dod â’r system ehangach at ei gilydd i leihau anghydraddoldebau iechyd ac mae ei hygrededd, ei hegni a’i hymrwymiad diflino i wneud i hyn ddigwydd yn golygu ei bod hi’n ysbrydoliaeth i ni i gyd.” 

Mae’r rhai sy’n derbyn anrhydeddau’n cael eu gwobrwyo am eu cyfraniad eithriadol i fywyd cyhoeddus neu am ymrwymo eu hunain i wasanaethu a helpu’r DU. 

Mae rhestr lawn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2025 i'w gweld yma (Saesneg yn unig).