Neidio i'r prif gynnwy

Nifer yr achosion o ganser yn adfer tuag at lefelau cyn y pandemig

26 Medi 2024

Mae nifer yr achosion o ganser yng Nghymru yn dangos arwyddion o adfer i lefelau cyn y pandemig o ran canfod, gyda gwelliannau nodedig yn y cyfraddau canfod ar gyfer canser y coluddyn a chanser y fron mewn menywod rhwng 2020 a 2021. 

Yn 2021, cynyddodd nifer yr achosion o ganser newydd 10.2 y cant o gymharu â 2020, gyda chyfanswm o 19,625 o achosion yn cael diagnosis. Fodd bynnag, mae'r ffigur hwn yn parhau 3.9 y cant yn is na'r cyfartaledd cyn y pandemig a welwyd yn ystod 2018-2019. Mae’r data'n adlewyrchu darlun cymysg ar draws gwahanol fathau o ganser, gyda rhai yn adfer yn fwy cadarn nag eraill. 

Mae'r adferiad wedi bod yn arbennig o gryf ar gyfer canser y coluddyn a chanser y fron mewn menywod, lle roedd nifer yr achosion a ganfuwyd yn 2021 yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig. Gwelodd diagnosis o ganser y coluddyn gynnydd o 9.4 y cant, gydag achosion o ganser y fron mewn menywod wedi codi 5.5 y cant o gymharu â chyfartaledd 2018-2019. 

Gellir priodoli'r adferiad hwn, yn rhannol, i adfer rhaglenni sgrinio cenedlaethol ar gyfer y canserau hyn yn llwyddiannus ac yn brydlon, a gafodd eu hoedi dros dro yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020. Cafodd y rhaglenni sgrinio ar gyfer canser y coluddyn a chanser y fron mewn menywod eu hadfer ym mis Awst 2020, gan arwain at ddychweliad diagnosis disgwyliedig o ganser a ganfuwyd drwy sgrinio. O fis Hydref 2021 gostyngodd y Rhaglen Sgrinio'r Coluddyn yr ystod oedran a dechrau gwahodd pobl rhwng 58 a 60 oed. 

Er bod yr adlam o ran diagnosis o ganser y coluddyn a chanser y fron mewn menywod yn galonogol, nid yw canserau eraill wedi profi'r un lefel o adferiad. Roedd diagnosis canser yr ysgyfaint yn 2021 yn dal 3.9 y cant yn is na'r lefelau cyn y pandemig, ac mae canser y prostad yn parhau i weld oedi sylweddol, gyda gostyngiad 20.4 y cant mewn achosion a ganfuwyd o gymharu â 2018-2019. 

Mae'n debygol bod gwahaniaethau mewn llwybrau gofal iechyd yn dylanwadu ar amrywiadau mewn cyfraddau adfer ar draws mathau gwahanol o ganser. Er enghraifft, mae canserau'r ysgyfaint, sy'n aml yn cael diagnosis yn dilyn cyflwyniad symptomatig, wedi gweld adferiadau arafach.  

 
Meddai'r Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Er bod yr adferiad o ran nifer yr achosion o ganser yn galonogol i ni, yn enwedig ar gyfer canser y coluddyn a chanser y fron mewn menywod, rydym yn cydnabod bod angen rhagor o waith i gefnogi adferiad llawn canfod canser ar draws pob math o ganser. Mae cyfraddau canfod cynnar yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer gwella canlyniadau cleifion, ac rydym yn annog pawb i gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio a cheisio cyngor meddygol os oes ganddynt unrhyw bryderon."