Cyhoeddwyd: 28 Gorffenaf 2025
Ar Ddiwrnod Hepatitis y Byd, mae data newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cynnydd tuag at ddileu hepatitis B a C yng Nghymru.
Yn ôl yr Adroddiad Gwyliadwriaeth Blynyddol diweddaraf ar Feirysau a Gludir yn y Gwaed (BBV), mae Cymru wedi gweld cynnydd mewn sgrinio, diagnosis a thriniaeth hepatitis, sy'n arwydd cadarnhaol yn y daith tuag at dargedau dileu Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer 2030.
Roedd nifer y bobl a gafodd eu sgrinio ar gyfer hepatitis B (121,874) a hepatitis C (103,203) ar eu huchaf yn 2024, gan nodi cynnydd o 12 y cant a 14 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â hepatitis B a C yn parhau i fod yn isel, ac mae mwyafrif y rhai a ddechreuodd driniaeth hepatitis C yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gwella o’r feirws yn llwyddiannus.
Canfu'r adroddiad sy'n cwmpasu data hyd at ddiwedd 2024 y canlynol:
Er mwyn helpu pobl i gael mynediad hawdd at brofion, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i gynnig y gwasanaeth Profi a Phostio, sef prawf cyfrinachol gartref ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol sy’n dod drwy’r post. Gall pobl archebu pecyn ar-lein, cymryd sampl gwaed syml drwy bigo’r bys, a derbyn eu canlyniadau drwy neges destun.
Dywedodd yr Athro Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Diwrnod Hepatitis y Byd yn gyfle i atgoffa pobl fod hepatitis B a C yn gyflyrau y gellir eu hatal a’u trin. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi nod Sefydliad Iechyd y Byd yn llawn i'w dileu fel bygythiadau i iechyd y cyhoedd erbyn 2030.
“Gall y feirysau hyn aros yn y corff am flynyddoedd lawer heb achosi symptomau ac efallai na fydd llawer o bobl yn sylweddoli eu bod wedi’u heintio.
“Mae ein gwasanaeth Profi a Phostio cyfrinachol, rhad ac am ddim yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i wirio’ch statws o gartref. Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n credu y gallent fod mewn perygl i gael prawf.
“Mae llawer o wybodaeth a chymorth ar gael a fydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi ac yn eich galluogi i gael mynediad at driniaeth syml ac effeithiol os oes angen.”
Mae'r gwasanaeth Profi a Phostio ar gael drwy wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae triniaeth ar gyfer hepatitis C bellach yn cynnwys cyrsiau byr o dabledi, ac mae’r gyfradd gwella yn uchel iawn.
Mae Cymru eisoes wedi cyflawni naw o ugain targed WHO ar gyfer dileu hepatitis, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio gyda'r GIG a phartneriaid cymunedol i wella lleihau niwed, profi mewn carchardai, a mynediad at wasanaethau ar draws pob rhanbarth.
Am ragor o wybodaeth neu i archebu pecyn profi cartref am ddim, ewch i https://www.ircymru.online/