Cyhoeddwyd: 13 Ebrill 2022
O 25 Ebrill, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn symud o adrodd dyddiol i adrodd wythnosol ar nifer y rhai sydd wedi cael brechlyn yng Nghymru ar ein dangosfwrdd gwyliadwriaeth.
Bydd data'n cael eu diweddaru ar ddydd Llun, gyda'r ffigurau ar nifer y rhai sydd wedi cael brechlyn yn cael eu hadrodd hyd at y dydd Iau blaenorol.
Ar y dyddiad hwnnw, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn dechrau adrodd ar ddata sy'n ymwneud â rhaglen pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn, ac ar nifer y rhai sydd wedi'u brechu yn y rhaglen gyffredinol ar gyfer plant 5 i 11 oed.
Hefyd, yn ogystal â chyhoeddi'r cyfansymiau cronnol presennol ar gyfer unigolion sydd wedi'u brechu ers dechrau'r rhaglen frechu, bydd cyfansymiau'n cael eu paratoi sydd wedi'u haddasu i adlewyrchu'r boblogaeth sy'n byw yng Nghymru ar y dyddiad diweddaraf ar gyfer adnewyddu'r data.