Cyhoeddwyd: 18 Mai 2022
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn newid y ffordd rydym yn cyflwyno adroddiadau ar ddata Covid-19 wrth i ni symud allan o'r pandemig.
O ddydd Iau 26 Mai bydd adroddiadau dyddiol yn dod i ben, a bydd dangosfwrdd wythnosol ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi bob dydd Iau am 12pm.
Meddai Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Wrth i ni symud i ffwrdd o bandemig Covid-19 i sefyllfa lle mae'r feirws yn feirws anadlol endemig, mae angen i ni sicrhau bod ein hadrodd yn unol â threfniadau arferol. Mae hynny'n golygu adrodd data wythnosol, nid bob dydd fel yr ydym wedi bod yn ei wneud yn ystod y pandemig.
“Nawr bod profion cymunedol wedi dod i ben, rydym hefyd wedi edrych ar beth yw'r arwyddion mwyaf defnyddiol i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, y gwasanaeth iechyd a'r cyhoedd. Felly, wrth symud ymlaen bydd ein gwyliadwriaeth yn canolbwyntio ar dueddiadau ehangach gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty, marwolaethau, brechiadau, ac adroddiadau Covid-19 i ni gan y gwasanaeth iechyd (gwyliadwriaeth syndromig).
“Byddwn yn rhoi'r gorau i gyhoeddi data Coronafeirws dyddiol ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a gall pobl ymweld â'n gwefan yn uniongyrchol i gael y darlun diweddaraf.
“Diolch i bawb sydd wedi edrych ar ein data, neu sydd wedi rhannu a rhoi sylwadau ar ein negeseuon cyfryngau cymdeithasol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gobeithiwn y bydd pobl sydd wedi dilyn ein hadroddiadau yn parhau i wneud hynny i'r dyfodol.”
Bydd y dangosfwrdd gwyliadwriaeth Covid-19 ar ei newydd wedd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
Atgoffir aelodau o'r cyhoedd mai'r un peth gorau y gallant ei wneud i amddiffyn eu hunain a'r bobl o'u cwmpas rhag Covid-19 yw cael eu brechu.
Os byddwch yn datblygu peswch, twymyn neu newid o ran blas neu arogl, y cyngor iechyd cyhoeddus o hyd yw y dylech hunanynysu ar unwaith er mwyn amddiffyn eraill, a chael prawf Coronafeirws.
Ers 1 Ebrill 2022, ni all pobl yng Nghymru bellach archebu profion llif unffordd (LFT) oni bai bod ganddynt symptomau, ac mae'r holl safleoedd profi PCR ar gyfer y cyhoedd wedi cau.