17 Rhagfyr 2025
Bydd pob sgwrs a gewch yn gyfle i wneud gwahaniaeth.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch iawn o lansio modiwl e-ddysgu rhyngweithiol newydd Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC). Mae hyn yn adeiladu ar sylfeini Lefel 1 ac wedi'i gynllunio i'ch helpu i wneud y gorau o sgyrsiau bob dydd, a chefnogi pobl i gymryd camau bach a chyraeddadwy tuag at fywydau iachach.
Pam cymryd rhan?
· Gwella eich hyder a'ch sgiliau wrth gynnal sgyrsiau ystyrlon ynghylch newid ymddygiad
· Dysgu negeseuon allweddol a chyfeirio ar draws saith pwnc iechyd MECC
· Cael effaith gadarnhaol ar y bobl rydych chi'n eu cefnogi
· Cyflym, hyblyg, a hawdd ei gyrchu
Mae'r hyfforddiant hwn ar gael i bob aelod o staff mewn rolau sy'n wynebu'r cyhoedd a bydd yn eich grymuso i helpu eraill i wneud newidiadau parhaol. Mewngofnodwch heddiw a dechreuwch wneud i bob cyswllt gyfrif
Rhagor o wybodaeth:
· Ewch i wefan genedlaethol MECC i gael mynediad at fodiwlau e-ddysgu Lefel 1 a Lefel 2 MECC (gan gynnwys Modiwlau sy'n benodol i'r pynciau Pwysau Iach ac Alcohol), posteri y gellir eu lawrlwytho, a deunyddiau ategol.
· Anogwch eich cydweithwyr i gwblhau'r modiwl y mis hwn.
· Rhannwch eich adborth gyda thîm MECC yn Publichealthwales.MECC@wales.nhs.uk i helpu i lunio hyfforddiant yn y dyfodol.