Neidio i'r prif gynnwy

Meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn y blynyddoedd cynnar wedi'u nodi i helpu i gefnogi teuluoedd ifanc yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 22 Tachwedd 2024

Mae adroddiad o’r rhaglen 1000 o Ddiwrnodau Cyntaf yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi chwe maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ac yn dweud y gall gwneud newidiadau bach i’r ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud yn y meysydd hyn sicrhau gwahaniaeth enfawr i deuluoedd ledled Cymru.

Dywed yr adroddiad fod creu’r amodau i bob teulu ffynnu – fel cartrefi diogel, gwaith teg ac incwm, trafnidiaeth hygyrch ac amgylcheddau adeiledig a naturiol sy’n ystyriol o deuluoedd – yn gweithredu fel sylfeini cymdeithas sy’n galluogi pob plentyn i gael y dechrau gorau. mewn bywyd.

Ac mae’r ymchwil yn dangos bod buddsoddi mewn ymyriadau blynyddoedd cynnar yn talu ar ei ganfed, gyda phob punt sy’n cael ei gwario ar helpu teuluoedd a phlant yn ystod y mil diwrnod cyntaf o fywyd yn sicrhau elw o rhwng £1.30 a £16.80 mewn arbedion hirdymor a buddion i’r economi.

Mae’r adroddiad, sy’n galw’r mil diwrnod cyntaf yn ‘gyfle euraidd i adeiladu dyfodol tecach’ i blant, yn dweud mai beichiogrwydd a blynyddoedd cyntaf bywyd yw’r sylfaen ar gyfer dyfodol hapusach ac iachach. Mae’n dweud bod dechrau da mewn bywyd yn llywio sut mae plant yn teimlo amdanyn nhw eu hunain a’r rhai o’u cwmpas. Yn ogystal â chariad, gofal a sylw gan y bobl bwysicaf yn eu bywydau, mae babanod angen maeth, chwarae a chyfathrebu da i adeiladu eu hymennydd a'u cyrff.

Mae’n amlwg bod sawl her o ran sefydlu sylfeini cryf i leihau anghydraddoldebau yng Nghymru, gydag ymchwil yn dangos bod mwy nag un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Pan nad yw babanod yn dechrau gyda sylfaen gadarn, mae'n anoddach iddynt ddal i fyny yn nes ymlaen, ac o ganlyniad maent yn aml ar ei hôl hi o'u cymharu â'u cyfoedion, gan fod angen mwy o gymorth arnynt ymhellach i lawr y ffordd.

Ar y llaw arall, gall buddsoddi mewn hyfforddi ymarferwyr blynyddoedd cynnar mewn meysydd fel datblygiad lleferydd ac iaith, gael effaith enfawr ar ganlyniadau cyfathrebu plant – ar gost ariannol llawer mwy cymedrol.

Dywedodd Amy McNaughton, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r mil diwrnod cyntaf yn gyfle gwych i osod y sylfeini ar gyfer bywyd iach a hapus, ac mae’n bwysig ein bod yn cymryd camau i gefnogi teuluoedd yn y ffordd orau bosibl. 

Cymdeithas lle gall pob plentyn fod yn iach, yn hapus, a datblygu i’w llawn werthoedd babanod a phlant. Mae’n creu’r amodau i deuluoedd ffynnu ac yn gwneud amser i gyfoethogi perthnasoedd a rhyngweithiadau rhwng babanod ac oedolion yn eu bywydau.

“Mae nodi’r chwe maes blaenoriaeth hyn ar gyfer gweithredu yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth glir o’r rôl sydd gennym ni i gyd wrth greu cymdeithas lle mae babanod yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.”

Mae’r adroddiad i’w weld yma: