Neidio i'r prif gynnwy

Marwolaethau cysylltiedig ag alcohol yn uwch nag erioed yng Nghymru yn amlygu pryderon brys iechyd y cyhoedd

Cyhoeddwyd: 12 Mawrth 2025

Mae’r ffigurau diweddaraf ar gamddefnyddio sylweddau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu tueddiadau pryderus mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol a derbyniadau i’r ysbyty ledled y wlad.

Mae’r adroddiad, sy’n archwilio data o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a chyfiawnder troseddol yn amlygu’r angen parhaus i gydnabod a mynd i’r afael ag effeithiau cynyddol yfed alcohol ar iechyd y cyhoedd.

Cynyddodd marwolaethau sy’n ymwneud ag alcohol – y rhai a achosir yn gyfan gwbl neu’n rhannol gan alcohol – i’r lefel uchaf erioed. Roedd 562 o farwolaethau wedi’u cofnodi yng Nghymru yn 2023, sef cynnydd o 15.6 y cant ers y flwyddyn flaenorol (486) a chynnydd sylweddol o’i gymharu â 10 mlynedd ynghynt (351 yn 2014). O'r marwolaethau a achoswyd gan alcohol yn 2023, roedd bron i ddwy ran o dair (64.8 y cant) yn ddynion.

Ar ben hynny, roedd 683 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2023, sy’n cynrychioli cynnydd o 10.5 y cant ar y flwyddyn flaenorol (618) a chynnydd sylweddol o ddegawd yn ôl (462).

Mae derbyniadau i ysbytai oherwydd alcohol yn parhau i godi. Cafwyd dros 12,000 (12,236) o dderbyniadau yn cynnwys mwy nag 8,000 (8,147) o unigolion. Roedd oedolion hŷn 50+ oed yn cyfrif am ddwy ran o dair (67 y cant) o’r achosion hynny. Cofnodwyd y cyfraddau derbyn uchaf ym Merthyr Tudful (397 fesul 100,000 o bobl), sef mwy na dwbl y gyfradd ym Mhowys, a oedd â'r derbyniadau isaf.

Mae amddifadedd yn chwarae rhan arwyddocaol. Mae unigolion o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru 2.8 gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn oherwydd cyflyrau sy’n ymwneud ag alcohol na’r rhai o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Er bod derbyniadau i’r ysbyty oherwydd alcohol ymhlith y rhai dan 25 oed wedi gostwng 17.4 y cant o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol, cyrhaeddodd gwaharddiadau ysgol yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol y lefel uchaf erioed, sef 939 o achosion ym mlwyddyn academaidd 2022/23.

Dywedodd yr Athro Rick Lines, Pennaeth y Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae effeithiau niweidiol defnyddio alcohol yn parhau i fod yn bryder ledled Cymru, o ran marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau pan fo alcohol yn ffactor yn ogystal ag effeithiau iechyd hirdymor alcohol.

“Mae mynediad at wasanaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer pobl y mae defnyddio alcohol yn broblem iddynt yn parhau i fod yn ymyriad pwysig. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod y risg o niwed hyd yn oed ymhlith y rhai nad oes angen gwasanaethau triniaeth arnynt.”

Mae buddsoddi mewn atal yn gosod y sylfaen ar gyfer iechyd da trwy gydol bywydau pobl. Gall rhaglenni hirdymor ac ymyriadau wedi’u targedu wella canlyniadau iechyd, lleihau anghydraddoldebau a lleihau effaith ariannol iechyd gwael ar y GIG a’r gymdeithas ehangach yng Nghymru.

Dywedodd Helen Erswell, ymgynghorydd iechyd y cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r anghydraddoldebau iechyd amlwg yng Nghymru. Mae’n dangos bod materion yn ymwneud ag alcohol yn effeithio’n anghymesur ar unigolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

“Mae’n pwysleisio’r angen hanfodol am fuddsoddiad mewn mentrau sy’n canolbwyntio ar atal a all leihau risgiau iechyd yn y dyfodol, a fydd yn cefnogi bywydau hirach, iachach i bawb yng Nghymru yn y pen draw.”

Mae Dan 24/7 yn wasanaeth hanfodol o ran cynnig cyngor a chefnogaeth ar gyfer ymholiadau am alcohol. Mae cynghorwyr ar gael 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn i ateb cwestiynau a chynnig cyngor drwy ffonio 0808 808 2234 neu e-bostio dan@llinellgymorth.cymru I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.dan247/org.uk