Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog menywod i fynd i gael profion sgrinio serfigol rheolaidd yng nghanol y sylw cenedlaethol i ganser ceg y groth drwy farwolaeth cymeriad annwyl Sinead Osbourne yn Coronation Street.
Er mai diben teledu, i raddau helaeth, yw diddanu, gellir dadlau bod y cyfrwng yn fwyaf grymus pan fydd hefyd yn ceisio hysbysu a dylanwadu.
Bydd rhifyn heno o opera sebon hir sefydledig Coronation Street yn gweld Sinead Osbourne yn marw o ganser ceg y groth. Ac er bod selogion y gyfres yn galaru dros farwolaeth y cymeriad teledu poblogaidd, mae'r stori hefyd yn helpu i dynnu sylw'r cyhoedd at yr angen am sgrinio serfigol rheolaidd.
Mae hyn yn arbennig o addas ar adeg pa fo nifer y rhai sy'n cael sgrinio serfigol, sef un o raglenni'r GIG sy'n gwirio iechyd eich ceg y groth er mwyn helpu i atal canser, ar ei isaf mewn dau ddegawd yn y DU.
Bob blwyddyn mae tua 160 o fenywod yn cael diagnosis o ganser ceg y groth yng Nghymru. Dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser mewn menywod o dan 35 oed. Yn ôl ymchwil gan Sgrinio Serfigol Cymru, mae dros draean o fenywod 25-29 oed nad ydynt yn mynd i gael profion sgrinio serfigol.
Mae menywod sy'n mynd i gael eu prawf sgrinio serfigol pan maent yn cael eu gwahodd yn 25 oed yn fwy tebygol o barhau i fynd i gael eu sgrinio yn y dyfodol, gan leihau'n sylweddol eu risg o ddatblygu canser ceg y groth. Er mwyn annog presenoldeb, mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gweithio i sicrhau bod y nifer mwyaf posibl yn mynd i gael eu sgrinio a gwella mynediad i sgrinio, gan gynnwys lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ym mis Mawrth 2019 o'r enw #caragegdygroth.
Meddai Dr Ardiana Gjini, Arweinydd Ymgynghorol Rhaglenni Sgrinio Canser ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae sgrinio serfigol yn achub bywydau. Drwy beidio â mynd i'ch apwyntiad rydych yn colli'r cyfle i atal canser ceg y groth rhag datblygu, neu ei nodi ar gam cynharach pan fo'n haws ei drin.
“Rydym yn gwybod nad yw tua thraean o fenywod sy'n gymwys i gael sgrinio serfigol yn derbyn y cynnig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer sgrinio. Yn anffodus, y menywod hyn, ac yn enwedig menywod o dan 40 oed, sydd hefyd mewn mwy o berygl o ddatblygu canser ceg y groth.
“Mae'r rhan fwyaf o newidiadau ceg y groth cyn-canseraidd a chanseraidd a nodwyd drwy sgrinio yn rhai y gellir eu trin a'u gwella. Ein rhaglen sgrinio'r GIG yw un o'r rhaglenni o'r ansawdd uchaf ledled y byd. Nid yw'r prawf yn cymryd llawer mwy na phum munud ac rydym bob amser yn sicrhau bod menywod yn teimlo eu bod yn cael eu trin â pharch.”
Ym mis Medi 2018, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu profion feirws papiloma dynol risg uchel fel y prawf cyntaf i'w wneud ar bob sampl sgrinio serfigol. Dangoswyd bod hwn yn ddull mwy dibynadwy a sensitif o atal menywod rhag datblygu canser ceg y groth