Neidio i'r prif gynnwy

Mae ystadegau swyddogol blynyddol yn dangos anomaleddau cynhenid a lefelau clefydau prin yn ystod plentyndod yng Nghymru yn parhau'n sefydlog

Cyhoeddwyd: 11 Tachwedd 2024

Mae'r datganiad ystadegau swyddogol blynyddol gan y Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid (CARIS) ar gyfer 2023 wedi dangos bod lefel yr anomaleddau cynhenid mewn babanod a anwyd yng Nghymru wedi parhau'n sefydlog ar 4.8 y cant o'r holl enedigaethau, yr un lefel ag adroddiad y flwyddyn flaenorol. 

Mae CARIS yn darparu data blynyddol ar anomaleddau cynhenid er mwyn helpu i nodi patrymau anomaleddau, nodi clystyrau a'u hachosion, a galluogi darparwyr gofal iechyd i gynllunio gwasanaethau'n effeithiol. Mae'r data yn dangos bod 84.5 y cant o fabanod yr effeithiwyd arnynt gan anomaleddau cynhenid yn fywanedig, gyda 96.9 y cant o'r rheiny yn goroesi o leiaf blwyddyn. Mae'r gyfran sydd â gwahaniaeth cromosomaidd sylfaenol wedi cynyddu'n raddol ers sefydlu'r gofrestrfa ac mae bellach yn 14.3 y cant. 

Mae'r datganiad ystadegau hefyd yn cynnwys data cyfrif a chyffredinrwydd ar gyfer mwy na 380 o glefydau prin yn ystod plentyndod, sy'n cael eu categoreiddio yn ôl achos.  Y cyflwr genetig a adroddwyd amlaf oedd ffibrosis systig, gyda 330 o achosion wedi'u cofnodi sy'n cyfateb i gyffredinrwydd o 3.93 fesul 10,000 o enedigaethau byw. 

Cyflwynir y data mewn tri thabl, y gellir eu gweld yma, ynghyd â'r allbynnau data llawn.

 Adolygiad Bynyddol CARIS o 2022

Cynhelir sesiynau ffocws ar gyfer clinigwyr a staff iechyd cyhoeddus ar glefyd cynhenid y galon yn Sefydliad Meddygol Maelor Wrecsam (19 Tachwedd) a thrwy Microsoft Teams (26 Tachwedd). Mae canfod llawer o gyflyrau'r galon yn gynnar yn y cyfnod cyn geni yn hanfodol er mwyn i fabanod gael eu geni mewn unedau arbenigol lle byddant yn cael y gofal neu'r llawdriniaeth orau. Cysylltwch â thîm CARIS ar CARIS@wales.nhs.uk os hoffech fynychu un o’r cyfarfodydd

.