Cyhoeddwyd: 28 Mawrth 2024
Mae adolygiad o'r dystiolaeth bresennol a gynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o'r cydweithio â Chanolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dangos y gall ymyriadau i fynd i'r afael ag allgáu digidol mewn oedolion hŷn gynyddu nifer y defnyddwyr a llythrennedd digidol tra hefyd yn gwella canfyddiad pobl eu hunain o'u galluoedd eu hunain, a pharodrwydd i ddefnyddio technoleg.
Fodd bynnag, mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod angen mynd i'r afael â rhwystrau strwythurol, fel mynediad at y rhyngrwyd a fforddiadwyedd dyfeisiau, er mwyn lleihau ‘allgáu digidol’, yn enwedig mewn oedolion hŷn.
Mae ‘allgáu digidol’ yn disgrifio'r effaith ar y bobl nad ydym am ddefnyddio technolegau digidol, neu'n methu gwneud hynny, fel defnyddio gwasanaethau ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol.
Oedolion hŷn yw'r gyfran fwyaf o bobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac mae'n bwysig i gyrff cyhoeddus ddeall sut i gefnogi oedolion hŷn i oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu o ran cael mynediad at dechnolegau digidol.
Mae'r adroddiad, sy'n adolygiad cyflym o'r dystiolaeth bresennol a gafwyd o 21 o astudiaethau a gynhaliwyd rhwng 2018 a 2023 ar draws 14 o wledydd gwahanol, o blaid cynnal amrywiaeth o gamau gweithredu i leihau allgáu digidol, fel ymyriadau sydd wedi'u hymgorffori mewn gwasanaethau presennol, neu gynnwys gemau, defnyddio dull rhwng y cenedlaethau, meddalwedd cyfrifiadurol wedi'i theilwra neu addysgu sgiliau llythrennedd digidol penodol fel gallu nodi sgamiau.
Dangosodd y dystiolaeth y gall amrywiaeth o ymyriadau gynyddu llythrennedd digidol a chynyddu nifer y defnyddwyr, a hefyd gwella canfyddiad pobl eu hunain o'u galluoedd eu hunain, a'u parodrwydd i ddefnyddio technoleg.
Fodd bynnag, canfu'r adroddiad fod y dystiolaeth o sicrwydd isel oherwydd ansawdd methodolegol gwael yr astudiaethau, yn ogystal ag anhawster gwneud cymariaethau rhwng y gwahanol ddarnau o ymchwil.
Meddai Hannah Shaw, Prif Ddadansoddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth ar gyfer yr Arsyllfa yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r adolygiad hwn o dystiolaeth yn dangos yr angen am werthusiad pellach o ansawdd uchel yn y maes hanfodol hwn o allgáu digidol.
“Mae nifer yr oedolion hŷn nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd neu dechnoleg arall yn sylweddol, ac wrth i fwy o wasanaethau gael eu darparu ar-lein mae'n eithriadol o bwysig nad yw'r grŵp hwn yn cael ei adael ar ôl’.
“Rwy'n edrych ymlaen at weld gwerthusiadau newydd o ansawdd da yn cael eu cynnal yn y maes hwn i gael dealltwriaeth well o'r heriau yn y maes hwn, fel y gallwn weithio i leihau allgáu digidol yng Nghymru.”