Cyhoeddwyd: 19 Awst 2025
Mae arolwg newydd wedi canfod bod un o bob pump o bobl yng Nghymru, nad ydynt erioed wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2, wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i'w hymddygiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i leihau eu risg o ddatblygu'r cyflwr.
Yn ôl arolwg diweddaraf Amser i Siarad am Iechyd y Cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn deall bod modd atal diabetes math 2 i raddau helaeth. Mae 45 y cant yn dweud ei fod yn ataliadwy iawn ac mae 42 y cant arall yn dweud ei fod yn ataliadwy i ryw raddau.
Fodd bynnag, amlygodd yr arolwg hefyd, er bod y rhan fwyaf o bobl (86 y cant) yn ymwybodol bod bod dros bwysau yn ffactor risg ar gyfer datblygu diabetes math 2, nad oedd llawer yn ymwybodol o ffactorau risg arwyddocaol eraill. Amlygwyd hyn gan y canlynol:
Mae cymryd camau i ddeall lefel risg bersonol o ddatblygu diabetes math 2 yn gam cyntaf hollbwysig. Canfu'r arolwg fod 75 y cant o bobl yng Nghymru â diddordeb mewn defnyddio adnodd ar-lein i ddysgu pa mor agored i niwed ydyn nhw (33 y cant â diddordeb mawr; 42% â diddordeb cymharol fawr).
Nododd llawer o bobl symptomau cyffredin diabetes math 2, fel blinder a mwy o syched; roedd llai yn ymwybodol o symptomau arwyddocaol eraill. Dim ond:
Dywedodd David Taylor, Cyfarwyddwr Trawsnewid, Rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae diabetes math 2 yn gyflwr iechyd difrifol a all effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd a chanlyniadau iechyd. Yn anffodus yng Nghymru, mae'n un o'r cyflyrau iechyd sy'n tyfu gyflymaf y mae ein cenedl yn ei brofi.
“Mae’n ysbrydoledig bod pobl eisoes yn newid eu hymddygiad i leihau eu risg, ac mae’r diddordeb mewn defnyddio adnodd ar-lein i asesu lefel bersonol o risg yn gyfle gwirioneddol i ni weithio gyda’n gilydd i wrthdroi’r nifer cynyddol hwn o bobl sy’n cael diagnosis o ddiabetes math 2. Mae'n dangos bod atal yn gyraeddadwy.
“Mae’r dystiolaeth yn glir: bwyta’n iach, aros yn egnïol, a chynnal pwysau iach yw eich dulliau mwyaf pwerus ar gyfer atal diabetes math 2. Nid oes angen i'r rhain gynnwys newidiadau dramatig – gall newidiadau bach y gellir eu rheoli wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nid yw atal diabetes math 2 yn ymwneud â dewisiadau unigol yn unig. Mae angen i ni wneud lleoedd bob dydd yn iachach drwy wella mynediad at fwyd fforddiadwy ac iach a chefnogi gweithgarwch corfforol.
“Rydym am rymuso pobl gyda’r wybodaeth a’r camau ymarferol fel y gallant weithredu. Mae hyn yn dechrau gyda phawb 18 oed a hŷn yn gwirio eu statws risg gan ddefnyddio adnodd ar-lein Diabetes UK. Os yw canlyniadau'r adnodd yn dangos y gallech fod mewn perygl uchel o ddatblygu diabetes math 2, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, oherwydd gallech gael eich atgyfeirio at Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan i gael cymorth. Yn yr un modd, os ydych chi'n profi symptomau fel mwy o syched, pasio wrin yn aml, neu glwyfau sy'n gwella'n araf, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Dywedodd Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru:
"Gyda mwy na 269,000 o bobl yng Nghymru bellach yn byw gyda chyn-ddiabetes – sy'n eu rhoi mewn perygl uchel iawn o ddiabetes math 2 – mae'n galonogol gweld bod pobl yn cymryd camau rhagweithiol i helpu i leihau eu risg.
“Mae’n hanfodol bod pobl yn derbyn y cymorth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, ar yr amser iawn, i’w helpu i leihau eu risg o ddatblygu diabetes math 2 a'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig ag ef. Mae mentrau fel Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan wedi bod yn llwyddiannus wrth atal diabetes math 2, ac mae'n bwysig bod pobl ledled Cymru yn gallu cael mynediad at y cymorth hwn sy'n newid bywydau.
“Gall diabetes math 2 fynd heb ei ddiagnosio am flynyddoedd lawer, felly mae'n bwysig deall eich risg, a gwybod beth yw’r arwyddion a'r symptomau i gadw llygad amdanynt. I ddarganfod eich risg unigol o ddiabetes math 2 ac i gael cyngor ar sut i'w ostwng, ewch i adnodd Know Your Risk am ddim Diabetes UK (www.riskscore.diabetes.org.uk/start).