Cyhoeddig: 20 Tachwedd 2023
Wrth i Wythnos Profi HIV Cymru ddechrau, mae grwpiau cymunedol a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn atgoffa pobl sy'n cael rhyw y gall unrhyw un gael HIV, a bod profion rheolaidd yn hanfodol i amddiffyn eich hun ac eraill.
Mae cael diagnosis cynnar yn golygu y gall pobl sy'n byw gyda HIV gael mynediad at driniaeth a fydd yn sicrhau y gallant fyw mor hir ag unrhyw un arall. Mae triniaeth effeithiol yn lleihau faint o feirws sydd yn y gwaed i lefelau na ellir eu canfod, sy'n golygu na ellir trosglwyddo HIV i eraill.
Yn ogystal, gall pobl nad ydynt yn profi'n bositif am HIV fod yn gymwys ar gyfer meddyginiaeth PrEP – Proffylacsis Cyn-gysylltiad sy'n atal yr haint rhag mynd i mewn i'r corff.
Mae'n alwad sy'n cael ei hategu gan Andre Faria, uwch ymgynghorydd rheoli o Gaerdydd, sy'n dweud bod defnyddio'r gwasanaeth profi drwy'r post am ddim ledled Cymru yn golygu ei fod yn gallu cymryd mwy o reolaeth dros ei fywyd.
“Roedd defnyddio'r gwasanaeth profi iechyd rhywiol drwy'r post yn gyfleus iawn – rwyf wedi ei ddefnyddio ychydig o weithiau ac mae'n llawer symlach na gorfod trefnu taith i'r clinig iechyd rhywiol sy'n golygu gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.
“Mae'r cyfle i gael fy mhrofion o gysur fy nghartref yn wych. Mae'r profion yn ddigon hawdd i'w gwneud, ac rwyf fel arfer yn cael y canlyniadau yn ôl o fewn wythnos.
“Drwy wneud y profion ac ymgysylltu â'r gwasanaeth rwyf wedi gallu cael mynediad at PrEP, sydd wedi rhoi tawelwch meddwl i mi na fyddaf yn dal HIV.
“Roedd y broses yn syml ac roedd y staff yn gyfeillgar iawn, ac roeddwn yn teimlo fy mod wedi cael yr holl wybodaeth, cymorth a chyngor yr oedd eu hangen arnaf.”
Mae cael mynediad at brawf HIV yn syml iawn, ac mae ar gael i unrhyw un yng Nghymru: gellir archebu pecyn prawf pigiad bys am ddim, hawdd ei ddefnyddio o wefan Iechyd Rhywiol Cymru.
Gellir anfon y prawf i gyfeiriad o'ch dewis, ac mae'r canlyniadau'n gwbl gyfrinachol.
Meddai Zoe Couzens, Pennaeth Rhaglen Iechyd Rhywiol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Wythnos Profi HIV Cymru yn gyfle i ni ailadrodd pwysigrwydd profion rheolaidd, oherwydd gall HIV effeithio ar unrhyw un sy'n cael rhyw heb gondom.
“Yng Nghymru, ni fu profion HIV erioed yn haws ac mae'r broses yn gwbl gyfrinachol. Mae gwneud profion yn hygyrch yn rhan allweddol o Gynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru. Mae gwybod eich statws yn golygu y gall y rhai y mae angen triniaeth ôl-wrthfeirysol arnynt, gael mynediad ati a byw bywyd hir ac iach. Drwy fod ar driniaeth ni allant drosglwyddo HIV i eraill.”
Wedi'i sefydlu yn 2021, gan wirfoddolwyr yn gweithio gyda'i gilydd fel menter Fast Track Cities, mae Wythnos Profi HIV Cymru wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel dull effeithiol o gynyddu profion a mynd i'r afael â stigma sy'n gysylltiedig â HIV yng Nghymru. Eleni, mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth agos â'r un gwirfoddolwyr. Mae hyn yn dilyn cyhoeddi Cynllun Gweithredu HIV Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio dileu pob achos newydd o HIV a chyflawni dim goddefgarwch o stigma sy'n gysylltiedig â HIV erbyn 2030.
Ychwanegodd Zoe Couzens: “Eleni, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno ymgyrch a fydd yn adeiladu ar lwyddiant wythnosau profi blaenorol, yn ogystal â defnyddio gwaith arloesol ymgyrchoedd a arweinir gan wirfoddolwyr a gyflwynwyd yn lleol cyn 2021. Mae buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn golygu mai Wythnos Profi HIV Cymru eleni fydd y fwyaf erioed, a bydd gweithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl nag erioed o'r blaen.”