Cyhoeddwyd: 22 Chwefror 2023
Mae bron tri chwarter o bobl (73 y cant) yng Nghymru yn dewis helpu eraill er mwyn diogelu a gwella eu llesiant meddyliol eu hunain, yn ôl arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gofynnodd arolwg diweddaraf panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus i 1,072 o bobl yng Nghymru yn ystod mis Ionawr am gamau gweithredu y maent yn eu cymryd i ddiogelu a gwella eu llesiant meddyliol. Canfu'r arolwg fod bron 9 o bob 10 o bobl (87 y cant) yn gweithredu mewn rhyw ffordd ar hyn o bryd. Ynghyd â helpu eraill, y gweithgareddau poblogaidd eraill oedd:
Canfu'r arolwg fod tri o bob pedwar o bobl (75 y cant) yn ‘cytuno'n gryf’ ei bod yn bwysig i bobl gymryd camau gweithredu i gynnal a gwella eu llesiant meddyliol.
Roedd yr arolwg hefyd yn gofyn i bobl pa mor aml maent yn teimlo'n unig. Dywedodd bron 1 o bob 5 o bobl (18 y cant) yng Nghymru eu bod yn teimlo'n unig “bob amser” neu “yn aml”. Gall unigrwydd effeithio'n negyddol ar ein llesiant meddyliol, ond gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr.
Meddai Dr Emily van de Venter, Ymgynghorydd Arweiniol Llesiant Meddyliol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae canlyniadau mis Ionawr panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus wedi dangos bod mwyafrif y bobl yng Nghymru wir yn cydnabod pwysigrwydd pobl yn gofalu am eu llesiant meddyliol, ac maent yn cymryd camau cadarnhaol i ddiogelu a gwella eu llesiant eu hunain.
“Mae'n galonogol gweld mai helpu eraill yw'r ffordd fwyaf poblogaidd i bobl yng Nghymru wella eu llesiant meddyliol, rhywbeth sy'n cael ei ategu gan dystiolaeth fel ffordd effeithiol iawn o roi hwb i'ch hwyliau, er enghraifft, drwy wirfoddoli yn eich cymuned neu helpu cymydog. Hefyd, gall rhoi gwên neu ddweud “bore da” wrth bobl rydych yn eu gweld yn eich cymdogaeth godi eu calon a helpu i leihau teimladau o unigrwydd drwy roi ymdeimlad o gysylltiad.
“Mae hefyd yn dda gweld yr amrywiaeth o weithgareddau eraill y mae pobl yn eu gwneud i wella eu llesiant meddyliol, fel cysylltu â natur a phobl eraill, a gwneud gweithgarwch corfforol. Mae'r rhain i gyd yn ffyrdd gwych o ofalu am eich llesiant meddyliol a'i wella ac maent yn dod â manteision eraill i iechyd hefyd.
”Mae canlyniadau cyffredinol yr arolwg yn galonogol. Fodd bynnag, gyda'n rôl i leihau anghydraddoldebau iechyd byddwn yn edrych yn fanylach ar y data i ddeall pa grwpiau sy'n profi llesiant meddyliol is a sut y gallwn eu cefnogi orau.”
I unrhyw un sy'n cael trafferth gyda'i iechyd meddwl neu lesiant, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wefan bwrpasol sy'n cysylltu ag amrywiaeth o adnoddau a all helpu, yn https://icc.gig.cymru/pynciau/cymorth-iechyd-meddwl/.
Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel newydd o drigolion sy 'n cynrychioli Cymru a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltu â'r cyhoedd yn rheolaidd i lywio polisi ac ymarfer iechyd cyhoeddus.
Roedd arolwg y mis hwn yn trafod llesiant meddyliol, brechlynnau, ymddygiad cymryd risg ac anghydraddoldebau iechyd. Mae'r panel yn ei gyfnod peilot ar hyn o bryd, ac mae'n ceisio recriwtio sampl sy'n gynrychioliadol yn genedlaethol o drigolion 16 oed a throsodd i gymryd rhan mewn arolygon misol a rhoi cipolwg ar faterion iechyd cyhoeddus allweddol. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o'r panel, cofrestrwch yma: