Mae cyfres newydd o adroddiadau sy'n canolbwyntio ar effeithiau Coronafeirws ar gyflogaeth yng Nghymru, wedi'i chyhoeddi heddiw (27.05.2021) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae pobl ifanc, a'r rhai mewn gwaith ansicr, wedi'u nodi fel rhai sy'n arbennig o agored i niwed o ran newidiadau cyflogaeth a achosir gan y pandemig, gyda llesiant meddyliol a thrafferthion wrth ddod o hyd i waith neu gadw gwaith wedi'u nodi fel pryderon mawr.
Mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn ymwybodol o'r cymorth sydd eisoes ar gael a sut i gael gafael arno, gan awgrymu mwy o angen i sefydliadau ymgysylltu â phobl ifanc ar lefel ddyfnach, er mwyn dod o hyd i atebion i'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu o ran cael cyflogaeth dda a theg – sy'n hanfodol i iechyd a llesiant da pobl.
Y canfyddiadau allweddol ar draws yr adroddiadau oedd:
Roedd tua chwarter miliwn o weithwyr yn cael eu cyflogi mewn sectorau a gaewyd yng Nghymru (18 y cant o'r holl weithwyr) ar ddechrau'r pandemig gyda gweithwyr ifanc (16-24 oed) yn llawer mwy tebygol o gael eu cyflogi mewn sectorau a gaewyd (36 y cant o gymharu ag 11 y cant o'r rhai 35-64 oed).
Roedd pobl ifanc yn wynebu heriau amrywiol a chymhleth oherwydd y pandemig. Yn ogystal â'r her o ran cael a chadw gwaith da, teg a chymryd rhan ynddo, roedd y materion a godwyd yn cynnwys effeithiau'r cyfyngiadau symud dros dro, fel tarfu ar ddysgu galwedigaethol ac addysgu gartref, neu waethygu materion a oedd yn bodoli eisoes fel natur cyflogaeth i bobl ifanc, Brexit ac adroddiadau bod llai o bobl yn manteisio ar gredyd cynhwysol.
Mae'r gan y rhai sy'n gweithio mewn gwaith ansicr â chyflog isel lai o ddiogelwch a hawliau oherwydd natur ‘hyblyg’ eu swyddi. Mae pobl ifanc yn bennaf ymhlith y rhain oherwydd y tueddiadau sectoraidd penodol mewn mathau o gontractau cyflogaeth. Mae'r newidiadau cyflogaeth hyn hefyd wedi trosi'n effeithiau sylweddol wahanol i grwpiau penodol, ac ymddengys fod y rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig o Gymru wedi gwneud waethaf.
Mae ansicrwydd sylweddol ynghylch y dyfodol, yn enwedig pan fydd cynlluniau'r llywodraeth fel ffyrlo yn dod i ben gan fod y rhain wedi bod yn glustogau ar gyfer poen economaidd a achosir gan y pandemig.
Mae pobl ifanc wedi'u heffeithio'n anghymesur gan y pandemig ac maent yn debygol o deimlo'r effeithiau am beth amser gyda phryderon ynghylch effeithiau andwyol ar ragolygon swyddi a'r potensial ar gyfer treth uwch yn y dyfodol i dalu am y cynlluniau cymorth ariannol a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig.
Er bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a dylanwadwyr o'r farn bod ymyriadau ar gael, ar wahân i'r cynllun ffyrlo, nid oedd pobl ifanc yn yr astudiaeth hon, ar y cyfan, yn ymddangos yn gyfarwydd â'r ymyriadau nac yn cael gafael ar y cymorth.
Bydd yn hanfodol sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan wrth ddatblygu cymorth yn y dyfodol.
Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gall polisïau'r farchnad lafur effeithio'n sylweddol ar iechyd poblogaethau cyflogedig a di-waith mewn ffordd gadarnhaol.
Mae amrywiaeth o bolisïau'n gysylltiedig â chanlyniadau iechyd meddwl a chorfforol gwell, yn ogystal â llai o anghydraddoldebau iechyd; fodd bynnag, mae rhai, fel sancsiynau budd-daliadau, wedi'u cysylltu â naill ai dim budd iechyd, neu hyd yn oed niwed.
Meddai Dr Benjamin Gray, Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Pobl 18-29 oed yw’r grŵp oedran â'r gyfran uchaf sydd wedi'u rhoi ar ffyrlo (41%) ac maent 2.5 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi'u rhoi ar ffyrlo na'r grŵp oedran 40-49 oed ac felly mae risg bod ganddynt ddyfodol ansicr. Gallai ffyrlo guddio effaith tymor hwy Covid-19 ar ddiweithdra, ac mae hyn yn bryder, yn enwedig ymhlith y grŵp oedran hwn.”
Meddai Dr Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus gyda’r Uned Penderfynyddion Iechyd Ehangach yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym eu bod wedi cael eu taro gan lu o ffactorau a allai gael effeithiau hirdymor ar eu rhagolygon cyflogaeth.
“Fodd bynnag, nid bod mewn gwaith yw'r unig beth. Mae'n ymwneud â natur, ansawdd a rhagolygon hirdymor y gwaith hwnnw – gwaith da, teg, sydd mor bwysig i iechyd pobl. Gwelsom yr effaith hon ar waith yn yr astudiaeth. Roedd rhai pobl ifanc sy'n gweithio y clywsom ganddynt yn cael trafferth gydag effeithiau newidiadau gwaith y tu hwnt i'w rheolaeth ar eu llesiant meddyliol, ond roedd y rhan fwyaf o'r rhai mewn cyflogaeth sefydlog yn teimlo'n dda ar y cyfan, yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu cyflogwr, ac yn weddol hyderus am y dyfodol.
“Gwyddom fod camau pwysig wedi'u cymryd ar lefel y DU, Cymru ac yn lleol er mwyn lliniaru effaith y newidiadau hyn mewn cyflogaeth. Fodd bynnag, disgwylir i rai o'r rhain ddod i ben.
“Neges glir o'n gwaith yw y bydd yn cymryd amrywiaeth o ddulliau i gynorthwyo pobl ifanc sy'n ymateb i heriau cyflogaeth y pandemig, er mwyn gwella iechyd. Gellir cymryd camau gweithredu yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol. Mae gan gyflogwyr hefyd rôl bwysig o ran helpu pobl ifanc i gael gwaith o ansawdd da, ac mae hynny'n cynnwys sefydliadau'r sector cyhoeddus. Os ydym am ddiogelu iechyd yn y dyfodol, bydd angen i ni weithio ar y cyd ac yn effeithiol, gan gynnwys pobl ifanc.”
Yr adroddiadau a gyhoeddwyd heddiw yw'r cyntaf mewn cyfres o ddadansoddiad cyflogaeth arfaethedig gan raglen Iechyd Poblogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n trafod effaith Coronafeirws ar farchnad lafur Cymru a bydd yn helpu i lywio llunwyr polisi a phenderfyniadau. Bydd camau ymchwil pellach yn edrych ar sut y gellid mynd i'r afael â heriau wrth i'r economi ailagor ac adfer, fel y gall y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o niwed tymor hwy o'r argyfwng sicrhau cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg o ansawdd da yn y dyfodol.
Mae'r canlynol wedi'u cyhoeddi yn y gyfres gyntaf hon: