Cyhoeddwyd: 28 Gorffennaf 2023
Ar Ddiwrnod Hepatitis y Byd, mae'r adroddiad blynyddol diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar feirysau a gludir yn y gwaed, gan gynnwys heintiau hepatitis B, hepatitis C, a HIV, yn dangos y bu cynnydd tuag at ddileu'r heintiau hyn fel problem iechyd cyhoeddus erbyn 2030 yng Nghymru.
Mae nifer y bobl sydd newydd gael diagnosis o hepatitis C cronig wedi gostwng traean ers 2015, i ychydig dros 300 yn 2022, ac ar yr un pryd mae nifer y bobl sy'n cael eu profi wedi rhagori ar lefelau cyn y pandemig, sef 75,000 prawf y flwyddyn.
Er bod mwy na 3,000 o bobl yng Nghymru wedi dechrau triniaeth ar gyfer hepatitis C ers 2015, mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhagor o bobl i ddod i gael profion a thriniaeth er mwyn sicrhau bod nod dileu 2030 yn cael ei gyflawni.
Yn y DU, mae nifer yr achosion cyffredinol o hepatitis C cronig yn isel. Fodd bynnag, mae rhai grwpiau'n wynebu risg uwch o haint - gan gynnwys pobl sy'n chwistrellu cyffuriau ar hyn o bryd, neu wedi chwistrellu cyffuriau yn y gorffennol.
Mae'r driniaeth ar gyfer hepatitis C wedi gwella yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac mae bellach yn llawer mwy effeithiol na'r hyn a ragnodwyd yn flaenorol. Mae hyn yn golygu y gall fod pobl nad ydynt wedi gallu cwblhau triniaeth yn y gorffennol a allai roi cynnig arall arni gyda'r feddyginiaeth newydd a disgwyl canlyniad llawer gwell.
Mae symptomau'r clefyd yn cynnwys teimlo'n flinedig drwy'r amser, symptomau tebyg i'r ffliw, cyfog a cholli archwaeth, felly mae'n aml yn cael ei gamgymryd am fathau eraill o salwch.
Edrychodd yr adroddiad ar gyfraddau hepatitis B a HIV hefyd. Mae pob baban yn y DU a anwyd ar neu ar ôl 1 Awst 2017 yn cael cynnig tri dos o frechlyn sy'n cynnwys hepatitis B fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio plentyndod arferol. Mae Cymru wedi llwyddo'n gyson i gyflawni dros 95% o ran canran y rhai sy'n manteisio ar yr imiwneiddio 6 mewn 1 sy'n cynnwys hepatitis B.
Diagnosis o heintiau HIV newydd yng Nghymru yw'r isaf ymhlith gwledydd y DU, ac mae wedi mwy na haneru ers 2017, gyda 60 o achosion positif newydd wedi'u nodi yn 2021. Mae hyn wedi cyd-fynd â chynnydd saith gwaith mewn pobl mewn grwpiau sydd mewn perygl yn cael proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) wedi'i ragnodi i'r rhai sy'n wynebu risg. Mae PrEP yn lleihau'r risg o ddal HIV drwy ryw 99% pan fydd yn cael ei gymryd fel y rhagnodir, ac mae mynediad ehangach ato wedi arwain at leihau trosglwyddiad HIV yn sylweddol yn y DU.
Meddai'r Athro Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol yn y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy:
“Mae Diwrnod Hepatitis y Byd yn gyfle i ni i godi ymwybyddiaeth o brofion hepatitis C ac argaeledd triniaeth effeithiol a hawdd ei defnyddio. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi strategaeth Sefydliad Iechyd y Byd, ynghyd â Llywodraeth Cymru, i ddileu hepatitis B ac C fel bygythiad i iechyd cyhoeddus erbyn 2030.
“Oherwydd bod y feirws yn aros yn y corff – yn aml yn dawel - am lawer o ddegawdau, efallai na fydd pobl sydd wedi wynebu risg yn y gorffennol yn ymwybodol eu bod wedi'u heintio.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu gwasanaeth profi drwy'r post am ddim, hollol gyfrinachol ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed fel hepatitis C a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallant fod yn wynebu risg - gan gynnwys y rhai nad ydynt erioed wedi chwistrellu cyffuriau - i gael gafael ar y gwasanaethau hwn ,edrych ar wefan GIG 111, neu i gysylltu â'ch meddyg teulu. Bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi, ac os effeithir arnoch, gallwch gael mynediad at driniaeth a'i chwblhau.
“Yn ogystal, ac yn benodol mewn cysylltiad â hepatitis C, rydym yn awyddus i annog y bobl hynny sydd wedi dechrau triniaeth hepatitis C yn flaenorol ond nad oeddent yn gallu ei chwblhau, neu'r rhai na chafodd eu hailbrofi ar ôl triniaeth, i gael prawf ac os oes angen gallant gael triniaeth eto.”
Meddai Rachel Halford, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Hepatitis C:
“Mae nodi 12fed Diwrnod Hepatitis y Byd yn gyfle gwych i ddathlu'r cyfan sydd wedi'i gyflawni ar y ffordd i ddileu yng Nghymru ond mae hefyd yn ein hatgoffa ynghylch faint ymhellach y mae angen i ni fynd.
“Rydym yn prysur agosáu at ddyddiadau targed dileu hepatitis C Llywodraeth Cymru ac nid oes amser i'w wastraffu o ran cyrraedd y bobl sy'n parhau heb ddiagnosis.
“Gallwch dreulio llawer o flynyddoedd cyn i chi brofi unrhyw symptomau hepatitis C ond gall y niwed y gall y feirws ei wneud i'ch afu pan na fydd wedi'i ganfod fod yn berygl i fywyd. Gall pobl ddod i gysylltiad â hepatitis C mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys cael trallwysiad gwaed cyn dechrau'r 1990au, cael triniaeth feddygol neu gael tatŵ dramor neu drwy chwistrellu cyffuriau.
“Os ydych yn poeni am hepatitis C, mynnwch becyn profi am ddim drwy'r post neu gofynnwch i'ch meddyg teulu am brawf hepatitis C heddiw.”