Cyhoeddwyd: 13 Gorffenaf 2022
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i gyhoeddi sy'n trafod annhegwch o ran cyfranogiad yn y rhaglenni sgrinio cenedlaethol sy'n seiliedig ar y boblogaeth yn dilyn tarfu a achoswyd gan bandemig y Coronafeirws.
Mae Adroddiad Annhegwch yr Adran Sgrinio 2020-21, yn edrych ar y flwyddyn o fis Ebrill 2020 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021.
Mae'r adroddiad yn dangos bod y bobl a oedd yn byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig sgrinio o gymharu â'r rhai sy'n byw yn y cymunedau lleiaf difreintiedig.
Ar gyfer rhaglenni sy'n gwahodd pobl ar draws grwpiau oedran, roedd grwpiau oedran iau yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig sgrinio na phobl mewn grwpiau oedran hŷn. Mae Sgrinio Coluddion yn gwahodd pob rhyw i gymryd rhan, ac mae dynion yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig na menywod, er bod y bwlch yn fach.
Dangosodd yr adroddiad hefyd, mewn rhaglenni lle mae pobl yn cael eu gwahodd fwy nag unwaith, fod pobl sydd wedi mynychu o'r blaen yn fwy tebygol o ymateb i wahoddiadau dilynol.
Dywedodd Sikha de Souza, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r data hyn a fydd yn helpu ein rhaglenni, yn ogystal â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, i ddeall lle mae annhegwch, neu wahaniaethau annheg y gellir eu hosgoi, o ran nifer y rhai sy'n cael eu sgrinio.
“Bydd y data hyn yn ein helpu i dargedu camau gweithredu a fydd yn cynorthwyo wrth ddeall a goresgyn y rhwystrau sy'n achosi'r annhegwch hwn. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn ystyried tegwch a hygyrchedd ym mhob gwasanaeth a ddarperir gennym a chynllunio ar gyfer y dyfodol, ar hyd y llwybr sgrinio cyfan. Byddwn yn parhau i weithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau i ddeall y rhwystrau y maent yn eu hwynebu a chwilio am strategaethau i'w goresgyn. Bydd ein rhaglenni yn gweithio gyda'r Tîm Ymgysylltu â Sgrinio a chydweithwyr yn y byrddau iechyd lleol, ac yn adeiladu partneriaeth gynaliadwy gyda grwpiau'r trydydd sector a chymunedau i alluogi ac annog dewis personol gwybodus am sgrinio.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy'n cael ei wahodd am sgrinio i ddarllen y wybodaeth a ddaw gyda'ch gwahoddiad yn ofalus, i'ch helpu i wneud dewis gwybodus ynghylch cymryd rhan.”
Mae adroddiad pellach yn edrych ar effaith pandemig y Coronafeirws ar wasanaethau sgrinio. Mae'r Adroddiad Effaith Covid-19 ar Raglenni Sgrinio Cenedlaethol yng Nghymru: Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021 yn myfyrio ar yr heriau a wynebwyd yn ystod y flwyddyn anarferol iawn hon. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar dri cham o'r ymateb sgrinio: yr oedi cychwynnol mewn rhai gwasanaethau ac adleoli adnoddau a chapasiti'r Adran Sgrinio; adfer sgrinio fesul cam wedi'i ddilyn gan y parhad i'r cyfnod adfer.
Mae’r adroddiad yn nodi sut roedd heriau wedi parhau drwy gydol blwyddyn gyntaf y pandemig o fewn adferiad y rhaglenni. Mae'r rhain yn cynnwys heriau sy'n ymwneud ag argaeledd lleoliadau clinig sgrinio, llai o gapasiti clinigau oherwydd llwybrau diogel Coronafeirws ac absenoldeb staff. Oherwydd yr oedi a'r heriau, roedd gweithgarwch sgrinio ar draws yr holl raglenni i oedolion yn is yn 2020/21 na lefelau cyn y pandemig.
Mae pob rhaglen wedi datblygu cynlluniau adfer i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Er bod y gwaith caled yn parhau, mae'r rhaglenni Sgrinio Serfigol a Choluddion wedi adfer ers hynny ac mae gwahoddiadau'n cael eu hanfon heb oedi ac mae'r rhaglenni sy'n weddill yn gweithio'n galed i adfer ar ôl yr oedi.
Parhaodd y rhaglenni sgrinio babanod (Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig a Sgrinio Clyw Babanod) a sgrinio cyn geni drwy gydol y pandemig fel rhan o ofal cyn geni ac ôl-enedigol arferol yng Nghymru.
Meddai Sharon Hillier, Cyfarwyddwr yr Adran Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Roedd darparu gwasanaethau yn ystod 2020 i 2021 yn heriol iawn ac rwy'n ddiolchgar iawn i staff am weithio i gynnig sgrinio ac i gydweithwyr yn y byrddau iechyd am eu cymorth. Rydym yn parhau i weithio tuag at adferiad llawn yr holl raglenni a gafodd eu hoedi ac yn parhau â'n datblygiadau a'n gwelliannau arfaethedig.”
Mae sgrinio yn broses o nodi pobl sy'n ymddangos yn iach a all fod mewn mwy o berygl o glefyd neu gyflwr. Mae rhaglenni sgrinio yn galluogi canfod a thrin problemau iechyd posibl yn gynnar, gan wella canlyniadau iechyd i bobl Cymru.