Cyhoeddwyd: 18 Mawrth 2025
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mabwysiadu'r Siarter i Deuluoedd Mewn Profedigaeth oherwydd Trasiedi Gyhoeddus yn ffurfiol, gan ymuno â mwy na 50 o sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled Cymru i ymrwymo i fod yn agored, tryloywder ac atebolrwydd wrth ymateb i drasiedïau cyhoeddus.
Mae'r Siarter, a ysgrifennwyd gan yr Esgob James Jones KBE yn dilyn ei adroddiad ar wersi o drychineb Hillsborough, yn galw am newid diwylliannol o ran sut y mae cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â theuluoedd mewn profedigaeth, gan sicrhau eu bod yn cael eu trin â gofal a thosturi cyn, yn ystod, ac ar ôl digwyddiad mawr.
Meddai Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Sgrinio a Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o fabwysiadu'r Siarter i Deuluoedd Mewn Profedigaeth oherwydd Trasiedi Gyhoeddus ac mae wedi ymrwymo i'w chefnogi i raddau llawn ein swyddogaethau statudol ochr yn ochr â phartneriaid ledled Cymru."
Cynhelir digwyddiad lansio ffurfiol ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth, 18 Mawrth, a bydd yr Esgob James Jones KBE, teuluoedd mewn profedigaeth, a goroeswyr trasiedïau cyhoeddus gan gynnwys, Hillsborough, Tŵr Grenfell, Arena Manceinion ac Aberfan yn bresennol. Bydd cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus ledled Cymru hefyd yn bresennol i gynnal seremoni lofnodi'r Siarter.
Drwy fabwysiadu'r Siarter, mae sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, gwasanaethau brys, a chyrff iechyd, wedi gwneud ymrwymiad clir i roi pobl yn gyntaf a sicrhau bod gwersi o drasiedïau yn y gorffennol yn arwain at newid ystyrlon.