Cyhoeddwyd: 14 Mai 2025
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn dweud bod cefnogi pobl i aros yn iach yn allweddol i fynd i'r afael â rhai o'r heriau presennol sy'n wynebu'r system iechyd a gofal. Mae 48 y cant o oedolion yng Nghymru yn profi cyflyrau hirdymor, y gellir eu hatal neu eu rheoli o bosibl trwy ymyrraeth gynharach, gyda 20 y cant yn byw gyda dau gyflwr o'r fath neu fwy.
Problemau cyhyrysgerbydol yw'r rhai a adroddir fwyaf (17 y cant), ac yna problemau iechyd meddwl (12 y cant) a chyflyrau'r galon a chylchrediad y gwaed (11 y cant). Yn ogystal, mae marwolaethau y gellir eu hosgoi ddwywaith yn uwch yn y cymunedau mwyaf difreintiedig o'i gymharu â'r rhai lleiaf.
Er mwyn helpu i wella hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu dull newydd sydd â'r nod o ymgorffori atal mewn penderfyniadau bob dydd ar draws y system – gan helpu pobl yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach.
Mae'r Fframwaith Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Atal (PBHC) yn nodi'r camau gweithredu allweddol sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau nid yn unig yn trin salwch ond hefyd yn gwella iechyd a lles wrth leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae'r rhain yn cynnwys nodi pobl sydd mewn perygl yn gynharach a chydweddu gwaith atal ar draws y GIG a gofal cymdeithasol.
Mae llawer o strategaethau atal eisoes yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, gan gynnwys Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, Atal Strôc, gwasanaethau Atal Cwympiadau a mwy.
Bydd y dull PBHC yn anelu at nodi risgiau iechyd yn gynharach a thrwy helpu pobl i aros yn iach, bydd yn lleihau effaith y cyflyrau hyn ar unigolion a'r GIG.
Mae atal hefyd yn rhan bwysig o'r ateb i sicrhau gwasanaethau iechyd a gofal cynaliadwy, yn enwedig yn wyneb pwysau cynyddol ar y GIG. Mae Fframwaith PBHC yn dwyn ynghyd amrywiaeth o ddulliau i ymgorffori atal yn gynhwysfawr yn y system iechyd a gofal. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, rheoli iechyd y boblogaeth, gwella gwasanaethau gofal iechyd, a gweithio gyda sectorau eraill i wneud iechyd yn rhan o bob polisi a phenderfyniad.
Dywedodd Dr Amrita Jesurasa, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn yr Adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae rhoi atal wrth wraidd gofal yn helpu i gefnogi pobl i aros yn iach, i ganfod afiechyd yn gynharach, ac i ymyrryd yn gyflym i helpu'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor i fyw'n dda.
“Mae Fframwaith PBHC yn darparu dull systematig sy’n ein helpu i ddeall y camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni nodau atal penodol, fel lleihau nifer yr achosion o glefyd cardiofasgwlaidd. Mae’n gwneud hyn drwy ein helpu i nodi pwy sydd angen elwa o gamau gweithredu ataliol, pa gamau gweithredu sydd eu hangen a sut y dylid eu gweithredu.
“System gofal iechyd gynaliadwy yw un lle mae llai o alw am ofal oherwydd bod pobl yn iachach, a lle mae gofal o ansawdd uchel ar gael i’r rhai sydd ei angen pan fydd ei angen arnynt.”
Mae gwerth buddsoddi mewn atal wedi’i brofi’n dda. Mae ymyriadau iechyd cyhoeddus yn costio llawer llai nag ymyriadau gofal iechyd, gyda phob blwyddyn ychwanegol o iechyd da wedi’i hamcangyfrif yn £3,800, o’i gymharu â £13,500 ar gyfer dulliau sy’n seiliedig ar ofal iechyd.
Mae Fframwaith PBHC wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio ar draws pob lefel o'r system iechyd a gofal cymdeithasol, o gynllunio strategol a gweithredol i ddarparu gofal rheng flaen. Mae'n helpu gweithwyr proffesiynol mewn cynllunio strategol a gweithredol i nodi cyfleoedd ar gyfer alinio ar draws y system a chydweithio i wella iechyd.