Neidio i'r prif gynnwy

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl gymwys i ddod ymlaen i gael eu brechiad COVID-19 yn y gwanwyn

Cyhoeddwyd: 27 Mai 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl gymwys yng Nghymru i gael eu brechiad gwanwyn COVID-19 am ddim i'w hamddiffyn rhag salwch difrifol.

Mae arbenigwyr iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa'r rhai sy'n gymwys nad salwch gaeaf yn unig yw COVID-19 ac nad yw wedi diflannu. Gall y firws barhau i beri risg iechyd ddifrifol, yn enwedig i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl fel oedolion hŷn a phobl â system imiwnedd wan.

Dangosodd data gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) o raglen y gwanwyn diwethaf fod unigolion a gafodd frechlyn tua 45 y cant yn llai tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19 o bythefnos ar ôl y brechiad, o'i gymharu â'r rhai a arhosodd heb eu brechu.

Adroddodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fod brechlynnau COVID-19 wedi achub mwy na 1.4 miliwn o fywydau yn Rhanbarth Ewropeaidd WHO ers cyflwyno'r brechlynnau ym mis Rhagfyr 2020.

Yn dilyn cyngor y Pwyllgor Cydweithredol ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), yng Nghymru mae brechiad y gwanwyn COVID-19 yn cael ei gynnig i:

Pobl 75 oed a hŷn

Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn

Unigolion 6 mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Clefydau Ataliadwy drwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Hyd yn oed os ydych chi wedi cael y brechlyn COVID-19 o’r blaen, mae mathau o firysau’n newid, a gall amddiffyniad rhag brechlynnau leihau dros amser. Dyna pam ei bod hi’n bwysig i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl ymestyn eu hamddiffyniad trwy gael y brechlyn diweddaraf sy’n cael ei gynnig.

“Mae’r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19 yn cael ei leihau’n fawr trwy frechu.

“Mae cael y brechlyn COVID-19 pan gaiff ei gynnig yn dal i fod yn un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hunain.”

Mae rhaglen brechu gwanwyn COVID-19 yn rhedeg tan ddiwedd mis Mehefin.

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael y brechiad gwanwyn COVID-19 yn cael gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd lleol.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver:

"Mae COVID-19 yn dal i fodoli yn ein cymunedau ac yn parhau i beri risg iechyd yn enwedig i'r bobl fwyaf agored i niwed. Mae rhaglen brechu'r gwanwyn yn darparu amddiffyniad hanfodol, ac rwy'n annog yn gryf bawb sy'n gymwys i ddod ymlaen am eu brechiad gwanwyn COVID-19 am ddim, sy'n un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun rhag salwch difrifol."

Nid yw'n rhy hwyr i gael eich brechiad gwanwyn COVID-19.

Am ragor o wybodaeth am sut i gael y brechlyn, ewch i: Brechiad Gwanwyn COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru.