Cyhoeddig: 28 Tachwedd 2023
Mae arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod bod dynion yng Nghymru yn llai tebygol na menywod i feddwl ei bod yn angenrheidiol golchi dwylo. Cyfaddefodd 1 o bob 5 o ddynion yng Nghymru nad ydynt yn golchi eu dwylo ar ôl mynd i'r toiled. Roedd dynion hefyd yn fwy tebygol na menywod o ddweud eu bod yn golchi eu dwylo am lai nag 20 eiliad.
Yn yr arolwg cynrychioliadol o dros fil o oedolion yng Nghymru roedd ymwybyddiaeth arbennig o isel o bwysigrwydd golchi dwylo ar ôl dychwelyd o fan cyhoeddus, gyda dim ond 41% o ddynion a 50% o fenywod yn cytuno bod hyn yn angenrheidiol. Canfu arolwg YouGov a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd fod gan bobl ddiffyg ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd golchi dwylo ar ôl cwrdd â phobl y tu allan i'w haelwyd, gyda dim ond 38% o ddynion a 43 y cant o fenywod yn credu ei fod yn angenrheidiol. Dim ond tua hanner o oedolion Cymru ddywedodd eu bod yn golchi eu dwylo bob amser neu'n aml ar ôl tisian neu chwythu eu trwyn.
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn tynnu sylw at bwysigrwydd hylendid dwylo i gadw'n iach y gaeaf hwn. Mae golchi dwylo'n dda yn un o’r camau gweithredu mwyaf effeithiol y gallwn i gyd eu cymryd i leihau lledaeniad heintiau, fel ffliw, norofeirws a Covid-19. Mae dwylo person nodweddiadol yn cynnwys miliynau o ficrobau, mae'r rhan fwyaf yn ddiniwed ond gallant fod yn facteria sy'n achosi haint.
I leihau'r risg o ledaenu germau, argymhellir golchi dwylo am o leiaf 30 eiliad gyda sebon a dŵr ar adegau allweddol o'r diwrnod, gan gynnwys cyn bwyta, ar ôl defnyddio'r toiled, ar ôl chwythu eich trwyn, ar ôl teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth gyrraedd adref ar ôl bod mewn man cyhoeddus. Os nad oes cyfleusterau golchi dwylo ar gael, gellir defnyddio gel llaw sy'n seiliedig ar alcohol yn erbyn feirysau (er nad yw'n gweithio ar gyfer norofeirysau).
Mesurau eraill i amddiffyn erbyn lledaeniad haint y gaeaf hwn yw aros gartref os ydych yn sâl a sicrhau eich bod chi a'ch teulu wedi cael eich brechiadau gaeaf diweddaraf.
Meddai Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae'n bwysig parhau'r arferion hylendid da a ddysgom yn ystod pandemig Covid. Nid oes neb yn hoffi bod yn sâl, yn enwedig dros dymor yr ŵyl. Gall cymryd ychydig o gamau syml i ddiogelu eich hun a'ch anwyliaid yn erbyn haint wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chynyddu eich siawns o gadw'n iach y gaeaf hwn.”