Cyhoeddwyd: 20 Gorfennaf 2022
Mae Labordy Data Rhwydweithiol Cymru (NDL Cymru) wedi dangos potensial data cysylltiedig, drwy ddod â data ynghyd o bob rhan o'r system gofal argyfwng i ddeall iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru yn well.
Wedi'i ariannu gan y Sefydliad Iechyd, gweithiodd NDL Cymru ar y cyd ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, i fynd i'r afael â chwestiynau allweddol a ysgogwyd gan flaenoriaethau lleol.
Mae'r canfyddiadau a gynhyrchwyd eisoes yn cyfrannu at y dystiolaeth sydd ei hangen i lywio camau gweithredu, gan gynnwys y cymorth ar gyfer swyddi ymarferwyr iechyd meddwl a leolir mewn canolfannau galwadau ambiwlans gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru, y mae gan rai ohonynt arbenigedd mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn argyfwng iechyd meddwl.
Meddai Alisha Davies, Arweinydd Labordy Data Rhwydweithiol Cymru a Phennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Drwy gysylltu data ar draws tri gwasanaeth gofal acíwt (Ambiwlans Cymru, Adrannau Achosion Brys, derbyniadau i'r ysbyty) rydym yn darparu'r darlun cynhwysfawr cyntaf o gyflwyniad argyfwng iechyd meddwl gan blant a phobl ifanc mewn gwasanaethau iechyd argyfwng yng Nghymru.
“Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at wahaniaethau pwysig o ran cyflwyniad argyfwng iechyd meddwl mewn gofal acíwt ac yn tynnu sylw at fanteision dod â ffynonellau data gwahanol at ei gilydd er mwyn helpu i fynd i'r afael â bylchau yn ein dealltwriaeth er mwyn helpu i lywio camau gweithredu. Mae'n wych gweld hyn eisoes yn cael ei wireddu gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.”
Ymhlith y canfyddiadau allweddol eraill roedd:
Er bod yr astudiaeth hon wedi canolbwyntio ar y system gofal iechyd acíwt, rydym yn cydnabod nad yw pob plentyn a pherson ifanc y mae angen cymorth iechyd meddwl arno yn cael ei weld gan y gwasanaethau hyn. Mae hyn yn amlygu'r angen i weithio ar draws sectorau gan gynnwys gwasanaethau addysg, iechyd a gofal ac eraill i ddeall yn well y llwybrau presennol o gael gafael ar gymorth, a'r ffordd orau o gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru yn y dyfodol.