Cyhoeddus: 26 Medi 2023
Ni ddylai cyflwyno prydau ysgol a gofal plant am ddim gyfaddawdu ar ansawdd os ydym yn mynd i ddiogelu iechyd y rhai sydd fwyaf difreintiedig. Dyma'r neges gan uwch arweinwyr Grŵp Cydgysylltu Adeiladu Cymru Iachach.
Nod y grŵp, a sefydlwyd yn 2019, yw sicrhau effaith fwyaf posibl yr asiantaethau cyfunol sy'n rhan o'i aelodaeth, er mwyn gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau.
Mae Grŵp Cydgysylltu Adeiladu Cymru Iachach yn gynghrair anstatudol o arweinwyr strategol sy'n cynrychioli sefydliadau a safbwyntiau strategol o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector gydag amrywiaeth o gynrychiolaeth ledled Cymru. Mae'r aelodau'n cynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth leol, byrddau iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Chwaraeon Cymru, yr heddlu, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, tai a'r sector gwirfoddol.
Bydd y canfyddiadau, a baratoir ar gais y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bwysig i awdurdodau lleol wrth iddynt barhau i weithredu polisïau Llywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol nad yw gweithredu polisïau fel ymestyn gofal plant y blynyddoedd cynnar a darparu prydau ysgol am ddim i'r holl ddisgyblion cynradd yn ehangu anghydraddoldebau presennol, ac yn ddelfrydol dylai leihau'r anghydraddoldebau hyn.
Yn eu hadroddiad, a ryddhawyd heddiw, maent yn argymell camau i gefnogi'r gweithredu – fel:
Sicrhau bod nifer y rhai sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim yn uchel a bod y ddarpariaeth yn gynhwysol
Darparu cyfleoedd i chwarae a chymdeithasu yn y lleoliad
Dysgu o raglenni eraill sy'n darparu bwyd y tu allan i'r ysgol
Datblygu darpariaeth gynaliadwy sy'n cefnogi economïau sylfaenol lleol dros yr hirdymor
Ymgorffori arferion gwaith teg mewn arlwyo ysgolion
Gan ddod ag arbenigedd o bob rhan o Gymru at ei gilydd i lunio'r adroddiad, rhannodd y grŵp y canfyddiadau â Llywodraeth Cymru drwy gydol ei waith. Mae bellach yn sicrhau bod yr adroddiad ar gael yn ehangach fel y gall awdurdodau lleol a phartneriaid eraill hefyd ddefnyddio'r dystiolaeth yn eu gwaith.
Meddai'r Cynghorydd Norma Mackie, Dirprwy Lefarydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chadeirydd y grŵp: “Mae Cymru yn wynebu heriau enfawr. Gyda bron un o bob tri o blant yn byw mewn tlodi, mae teuluoedd yn cael anhawster prynu'r hanfodion sydd eu hangen ar gyfer bywyd iach, fel bwyd maethlon ffres. Wrth i raglenni fel prydau ysgol am ddim ehangu, rhaid iddynt gael eu darparu i safon uchel os ydynt yn mynd i helpu'r teuluoedd sydd fwyaf mewn angen.
“Er bod llawer o wasanaethau o dan bwysau, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni yn awr, yn fwy nag erioed, ganolbwyntio ar weithio gyda'n gilydd i atal salwch. Drwy adeiladu Cymru iachach gallwn ddarparu'r cyfle gorau ar gyfer gwasanaethau cynaliadwy i'r dyfodol.”
Mae'r grŵp yn parhau i weithio i'w gwneud yn bosibl rhannu arfer gorau ar lefel strategol, nodi problemau ac atebion cyffredin i heriau presennol, a chwilio'r gorwelion ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Ymhlith y prosiectau eraill a arweiniwyd gan y grŵp roedd:
Uwchgynhadledd genedlaethol ar gostau byw, gan ddod â thros 180 o arweinwyr ac eiriolwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd, gan nodi cyfleoedd ar gyfer gweithredu cydgysylltiedig
Prosiect a greodd 220 o leoliadau cyflogaeth ‘Kickstart’, ac a arweiniodd at gyflogaeth barhaus i 40 o bobl ifanc
Goruchwylio'r gwaith o ddarparu £7.2 miliwn o bunnoedd a ddyrannwyd i fyrddau iechyd ledled Cymru i gynnal prosiectau gweithredu lleol ar gyfer atal salwch
Cynorthwyo'r gwaith o weithredu a gwerthuso prosiect peilot i sicrhau'r incwm mwyaf posibl i bobl ifanc, a welodd dros £400k o incwm yn cael ei ennill gyda chyfranogwyr yn nodi gwelliannau o ran llesiant meddyliol.
Meddai Jonathan Morgan, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac is-gadeirydd y grŵp: “Mae’n galonogol gweld bod y prosiectau cyntaf a gefnogir gan grŵp Adeiladu Cymru Iachach wedi bod yn llwyddiannus.
“Mae'r gwaith hwn yn ymwneud ag edrych ar benderfynyddion ehangach iechyd a defnyddio dull sy'n cael ei arwain gan dystiolaeth i geisio chwalu rhai o'r anghydraddoldebau iechyd hirsefydlog sy'n bodoli yng Nghymru.
“Er mwyn adeiladu Cymru iachach, mae angen i ni edrych yn ehangach na'r system iechyd yn unig. Mae ffactorau economaidd anghydraddoldebau iechyd yn glir, ac mae gallu darparu prosiectau ar lawr gwlad a all wneud rhywfaint o gynnydd o ran chwalu'r anghydraddoldebau hynny yn bwysig iawn i'r grŵp.”