Neidio i'r prif gynnwy

Dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol Newydd yn darparu data cyfoethog i ddefnyddwyr

Cyhoeddwyd: 25 Medi 2024

Yn lansio heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol newydd, sy'n cynnwys amrywiaeth o ddangosyddion am y 64 o glystyrau gofal sylfaenol yng Nghymru, i'w helpu i gynllunio a llywio eu blaenoriaethau a mynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldebau yn eu clystyrau. Mae clwstwr gofal sylfaenol yn dwyn ynghyd yr holl wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal ar draws ardal ddaearyddol. Maent yn cwmpasu poblogaeth lai na bwrdd iechyd, ac maent fel arfer yn gwasanaethu poblogaeth rhwng 25,000 a 100,000. Mae gweithio fel clwstwr yn sicrhau bod gofal yn cael ei gydlynu'n well i hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau. 

Nawr, am y tro cyntaf ers 2013, mae set gynhwysfawr o ddata ar gael a fydd yn galluogi clystyrau i asesu anghenion penodol eu hardal o gymharu ag ardaloedd eraill a chyfartaledd cenedlaethol Cymru.  Mae'r dangosfwrdd yn cynnwys data demograffig fel oedran a rhyw, yn ogystal â metrigau iechyd y boblogaeth fel canran pwysau geni isel, bwydo ar y fron ar 10 diwrnod, marwolaethau a marwolaethau y gellir eu hosgoi, nifer yr achosion o gyflyrau cronig fel asthma yn ogystal â mynediadau brys ar gyflyrau fel diabetes a chlefydau cylchredol.  Mae'r dangosfwrdd hefyd yn ymgorffori mapiau sy'n dangos poblogaethau clwstwr sy'n seiliedig ar fesurau amddifadedd. 

Datblygwyd y dangosfwrdd ochr yn ochr â defnyddwyr, gyda sesiynau'n cael eu cynnal i gadarnhau pa ddata yr oedd eu hangen ar glystyrau, a'r ffordd orau o asesu anghenion eu poblogaethau lleol. 

Meddai Nathan Lester, Pennaeth y Tîm Dadansoddi, ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae datblygu’r Dangosfwrdd Clystyrau Gofal Sylfaenol newydd wedi bod yn broses barhaus, reolaidd.  Rydym wedi cael mewnbwn gwych gan ein grŵp defnyddwyr ac amrywiaeth eang o randdeiliaid, sydd wedi dangos y galw clir am ddata ar y lefel ddaearyddol hon. 

“Mae'r dangosfwrdd yn rhoi cyfoeth o wybodaeth i glystyrau am eu poblogaethau, a bydd yn golygu bod ganddynt dystiolaeth i helpu i ganolbwyntio adnoddau i wella canlyniadau i'r boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau. 

“Byddwn yn parhau i wella'r dangosfwrdd ac ychwanegu ato, a byddem yn croesawu adborth gan randdeiliaid ar sut maent yn defnyddio'r data a pha ddatblygiad pellach y gellid ei ystyried.”