Mae Cymru wedi gweld gostyngiad o 36 y cant o ran mynychder TB dros y degawd diwethaf, gan ostwng o uchafswm o 4.6 achos fesul 100,000 o'r boblogaeth yn 2013 i 2.8 achos fesul 100,000 o bobl yn 2021. Rhoddwyd diagnosis i 90 o achosion newydd yn 2021, ac mae Cymru'n parhau i fod ymhell o fewn diffiniad Sefydliad Iechyd y Byd o wlad mynychder isel, sef unrhyw beth sy'n llai na 10 achos fesul 100,000 yn flynyddol. Mae'r canfyddiadau wedi'u cyhoeddi yn Adroddiad Blynyddol Twbercwlosis yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n cynnwys data hyd at ddiwedd 2021.
Mae TB yn haint sydd fel arfer yn effeithio ar yr ysgyfaint gyda symptomau'n cynnwys peswch parhaus gyda mwcws neu waed ynddo, teimlo'n flinedig, tymheredd uchel neu chwysu yn ystod y nos, colli archwaeth, colli pwysau, teimlo'n sâl yn gyffredinol, ymhlith symptomau posibl eraill. Ledled y byd, TB yw'r 13eg prif achos o farwolaeth a'r ail brif laddwr ar ôl Covid-19 (yn uwch na HIV ac AIDS) yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd. Mae rhoi terfyn ar yr epidemig TB byd-eang erbyn 2030 ymhlith Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ond mae achosion o TB yn y DU yn parhau i fod yn brin iawn.
Weithiau gall person gael TB yn ei gorff ond nid yw'n profi unrhyw symptomau. Gelwir hyn yn TB cudd. Roedd mwy na hanner yr holl achosion newydd a gafodd ddiagnosis o TB (64 y cant) yng Nghymru yn 2021 ymhlith pobl a anwyd dramor mewn gwledydd â chyfraddau uchel o TB. Nid yw’n hysbys pa gyfran o'r achosion hyn sy'n deillio o ailweithredu clefyd cudd a gafwyd cyn cyrraedd yn y DU.
Mae TB yn glefyd y gellir ei drin yn y rhan fwyaf o achosion. Cymerir gwrthfiotigau bob dydd am bedwar i chwe mis. Gelwir twbercwlosis nad yw'n ymateb i gyffuriau safonol yn TB ag ymwrthedd i gyffuriau ac mae angen triniaeth fwy gwenwynig arno â meddyginiaethau gwahanol. Mae tueddiadau o ran TB ag ymwrthedd i gyffuriau yng Nghymru yn parhau'n gymharol sefydlog gyda'r rhai a nodwyd gydag “unrhyw ymwrthedd i un neu ragor o gyffuriau cyntaf” ar 9 y cant o'r holl achosion yn 2021.
Meddai'r Athro Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er bod Cymru yn parhau i fod yn wlad mynychder isel ar gyfer TB, ac rydym wedi gweld gostyngiad cyson mewn achosion dros y degawd diwethaf, dylai ymdrechion barhau i gyflawni nodau Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu'r clefyd fel bygythiad iechyd cyhoeddus.
“Er y gall TB effeithio ar unrhyw un, mae'r achosion a nodir yng Nghymru yn aml yn ein poblogaethau mwyaf agored i niwed, felly mae mynd i'r afael â'r mater yn gyfle i leihau anghydraddoldebau iechyd cyffredinol.”