Cyhoeddwyd: 28 Medi 2022
Mae cyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi golygu bod ap sydd wedi ei gynllunio i helpu defnyddwyr PrEP i gymryd eu meddyginiaeth yn fwy effeithiol, bellach ar gael ar Android ac mewn sawl iaith, gan gynnwys y Gymraeg.
Mae Preptrack yn ap am ddim yn y DU, sy'n ceisio cefnogi atal HIV drwy atgoffa defnyddwyr pan fydd angen iddynt gymryd eu meddyginiaeth PrEP – proffylacsis cyn-gysylltiad.
Mae proffylacsis cyn-gysylltiad yn feddyginiaeth gwrth-retrofiraol sydd, o'i ddefnyddio'n gywir, dros 99% yn effeithiol o ran atal trosglwyddo HIV yn rhywiol. Fodd bynnag, er mwyn bod yn effeithiol, mae'n bwysig iawn bod y defnyddiwr yn cymryd y feddyginiaeth ar yr adeg iawn. Mae Preptrack yn cynhyrchu amserlen ac yn creu nodiadau atgoffa i'r defnyddiwr pan fydd angen i'w ddos gael ei gymryd, yn ogystal â chyfeirio at wybodaeth a chanllawiau perthnasol.
Mae Sefydliad Preptrack wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ail-lansio'r ap gydag opsiynau i'w ddefnyddio yn Gymraeg, yn ogystal â gweithio gyda Phrifysgol Fetropolitan Llundain i roi mynediad yn Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Pwyleg a Rwmaneg.
Meddai Zoe Couzens, Arweinydd Rhaglen Iechyd Rhywiol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Preptrack yn ateb ymarferol sy'n golygu y gall defnyddwyr PrEP fod yn hyderus eu bod yn cymryd eu meddyginiaeth yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch iawn o allu cefnogi'r gwaith o ehangu Preptrack i'r Gymraeg, a hefyd i ddyfeisiau Android, oherwydd bod gwneud yr ap ar gael i gynifer o bobl â phosibl yn helpu i gefnogi'r defnydd o PrEP fel rhan o'r mesurau i atal trosglwyddo HIV. Mae cynyddu'r defnydd o PrEP yn rhan allweddol o Gynllun Gweithredu newydd ar HIV Cymru, a bydd gwneud Preptrack yn fwy hygyrch yn cefnogi hynny.”
Meddai Samuel Bell, Cadeirydd Sefydliad Preptrack a Datblygwr Arweiniol ar gyfer Preptrack: “Mae Sefydliad Preptrack yn ddiolchgar iawn am y cymorth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi gwneud yr ail-lansiad hwn yn bosibl. Mae Sefydliad Preptrack yn sefydliad cwbl wirfoddol, felly mae'n dibynnu ar gymorth gan sefydliadau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru i barhau i ddatblygu’r ap. Rydym yn gyffrous iawn i allu ehangu'r ap ar draws Cymru, y DU a thu hwnt.”
Gellir lawrlwytho Preptrack o'r App Store ar ddyfeisiau iOS a Google Play Store ar gyfer Android. Mae’n ap am ddim ac yn dibynnu ar wybodaeth a ddarperir gan ddefnyddwyr i dracio'r defnydd o PrEP, nid yw'n ddyfais feddygol ac nid yw'n monitro amddiffyniad HIV yn uniongyrchol. Nid yw'r ap yn casglu data personol ac mae'r holl amserlennu yn cael ei wneud ar ffôn y defnyddiwr, sy'n golygu nad oes unrhyw wybodaeth am y defnydd o PrEP na gweithgarwch rhywiol yn hygyrch i eraill. Ceir rhagor o wybodaeth yn https://preptrack.co.uk/.