Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfraddau pydredd dannedd ymhlith plant 12 oed yng Nghymru yn gostwng, ond mae heriau o hyd

Cyhoeddwyd: 28 Ionawr 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arbenigwyr iechyd deintyddol wedi croesawu canfyddiadau Rhaglen Epidemiolegol Deintyddol GIG Cymru, sy’n dangos gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau pydredd dannedd ymhlith plant 12 oed yng Nghymru.  

Archwiliodd yr arolwg deintyddol, a rannwyd â 203 o ysgolion prif ffrwd a gynhelir gan y wladwriaeth, 6,329 o blant ym mlwyddyn ysgol saith (12 oed) yn ystod tymhorau’r gaeaf a’r gwanwyn 2023/24. Mae’r canlyniadau’n dangos bod nifer yr achosion o bydredd dannedd – canran y plant sydd â dannedd wedi pydru, ar goll neu wedi’u llenwi – wedi gostwng o bron i un o bob tri yn 2016/17 i un o bob pedwar yn 2023/24. Mae difrifoldeb, a fesurir fel nifer cyfartalog y dannedd y mae pydredd dannedd yn effeithio arnynt fesul plentyn, hefyd wedi gostwng o gymharu â lefelau blaenorol. 

Canfyddiadau Allweddol

  • Mae nifer yr achosion o bydredd dannedd ar gyfartaledd bellach yn 25.3%, gostyngiad ystadegol arwyddocaol ers 2016/17.
  • Mae gan blant 12 oed yng Nghymru, ar gyfartaledd, hanner dant wedi pydru. Mae hyn wedi gwella ers 2016/17.
  • Ar gyfer plant sy'n cael eu heffeithio gan bydredd dannedd, bydd gan bob un ar gyfartaledd 2 ddannedd heintiedig. Nid yw hyn wedi newid ers 2016/17.
  • Dywedodd bron i 30% o blant fod problemau iechyd y geg yn effeithio ar ansawdd eu bywyd, gyda phoen yn cael ei nodi fel y broblem fwyaf cyffredin.

Er gwaethaf y newidiadau cadarnhaol hyn, mae lefelau pydredd heb ei drin ac anghydraddoldebau yn parhau. Profodd plant o ardaloedd mwy difreintiedig gyfraddau uwch o bydredd dannedd o gymharu â’r plant hynny o ardaloedd llai difreintiedig, er bod rhai arwyddion o welliant ers 2008/9.

Dywedodd Paul Brocklehurst, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r canfyddiadau hyn yn gam cadarnhaol ymlaen, sy’n dangos gostyngiad amlwg yng nghyffredinrwydd a difrifoldeb pydredd dannedd ymhlith plant 12 oed yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r data hefyd yn amlygu bod pydredd dannedd heb ei drin wedi dod yn fwy cyffredin a bod plant o ardaloedd difreintiedig yn parhau i brofi lefelau sylweddol uwch o’r clefyd. 

“Mae iechyd y geg da yn dechrau gyda mesurau syml fel diet sy'n isel mewn siwgr a brwsio dannedd yn rheolaidd gyda phast dannedd fflworid. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gydag ysgolion, teuluoedd a chymunedau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a sicrhau bod plant ledled Cymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. 

“Mae atal yn hanfodol i gynnal iechyd y geg plant, gan ofyn am ymdrech ar y cyd gan blant, rhieni, gwarcheidwaid, practisiau deintyddol, a thimau ysgol neu ofal plant. Er bod cynnydd wedi’i wneud, mae ffocws parhaus ar atal ac addysg yn allweddol i sefydlu arferion iach gydol oes a lleihau pydredd dannedd.” 

Manylir ar y canfyddiadau llawn yn yr adroddiad technegol, Darlun o Iechyd y Geg 2024, a gyhoeddwyd gan Uned Gwybodaeth Iechyd y Geg Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.