Mae cofrestru nawr ar agor: Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd 2025
Dydd Mercher 22 Hydref - Clwb Criced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd
Bydd Cynhadledd Iechyd y Cyhoedd Cymru eleni yn cael ei chynnal ddydd Mercher 22 Hydref yng Nghlwb Criced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd.
Bydd y digwyddiad undydd blaenllaw hwn yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019 ac yn dwyn ynghyd fwy na 400 o gynrychiolwyr o bob cwr o Gymru – o'r sectorau cyhoeddus, preifat, academaidd a thrydydd – i rannu dysgu ac arloesedd, datblygu partneriaethau a rhwydweithio.
Thema eleni yw: “gweithredu heddiw, er mwyn cenedl iachach yfory.” Bydd y rhaglen yn mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol sy'n dylanwadu ar iechyd unigolion a chymunedau. Bydd y rhain yn cynnwys: maeth, addysg, tai, gweithgarwch corfforol, llesiant meddyliol, ein hamgylchedd naturiol a chysylltiadau cymdeithasol.
Bydd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o siaradwyr yn mynd i'r afael â heriau iechyd y cyhoedd hollbwysig. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar atal, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chreu canlyniadau iechyd mwy teg i bobl Cymru.
Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.
Gallwch gofrestru yma.