Cyhoeddwyd: 16 Medi 2025
Mae adroddiad newydd wedi canfod bod cleifion canser sy'n cymryd rhan mewn rhaglen i'w paratoi ar gyfer llawdriniaeth, yn treulio tri diwrnod yn llai yn yr ysbyty ar gyfartaledd.
Mae'r rhaglen, Prehab2Rehab, a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn cefnogi pobl o'r eiliad y mae amheuaeth o ganser. Mae'n canolbwyntio ar wella iechyd corfforol a meddyliol cyn triniaeth, gan helpu cleifion i baratoi ar gyfer llawdriniaeth, gwella'n gyflymach a lleihau'r risg o gymhlethdodau neu aildderbyn i'r ysbyty.
Mae ymyriadau'n cynnwys cynlluniau ymarfer corff wedi'u teilwra, cyngor deietegol a mynediad at fferyllwyr arbenigol, clinigau cardioleg a gwasanaethau asesu cyn llawdriniaeth.
Mae Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi'r system iechyd ehangach yng Nghymru i ddeall beth sy'n gweithio i atal salwch a gwella iechyd, er mwyn helpu i ehangu a lledaenu arferion da. Canfu’r gwerthusiad dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru fod:
Mae llwyddiant Prehab2Rehab yn tynnu sylw at pam mae'n rhaid blaenoriaethu gofal sydd wedi'i deilwra i anghenion lleol, gan roi cefnogaeth amserol i bobl aros yn iach, gwella adferiad, a helpu i leddfu'r pwysau ar y system iechyd a gofal ehangach.
Dywedodd Dr Rachael Barlow, Arweinydd Clinigol ar gyfer y Rhaglen Prehab2Rehab:
“Mae’r gwerthusiad hwn yn dangos bod Prehab2Rehab yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion canser. Mae'n helpu pobl i wella'n gyflymach, cyrraedd adref o'r ysbyty yn gynt, ac yn eu cefnogi i wneud dewisiadau iachach.
“Mae ein tîm Prehab2Rehab yn dod â gweithwyr iechyd proffesiynol, staff canolfannau hamdden ac elusennau ynghyd i helpu cleifion cyn gynted â phosibl yn eu taith canser. Drwy wella ffitrwydd cyn triniaeth, gallwn leihau oedi cyn llawdriniaeth.
“Rydym hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd cyfagos i wneud yn siŵr y gall mwy o bobl elwa, yn enwedig y rhai sy'n teithio i Gaerdydd am driniaeth arbenigol, gan fod yn rhaid i ddarparu mynediad cyfartal fod yn flaenoriaeth.”
Dywedodd Dr Esther Mugweni, Dirprwy Bennaeth Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae ein gwerthusiad yn dangos bod Prehab2Rehab yn helpu cleifion i dreulio llai o amser yn yr ysbyty ar ôl llawdriniaeth.
“Drwy leihau’r amser a dreulir yn yr ysbyty, nid yn unig y mae’r rhaglen yn cefnogi cleifion, ond mae ganddi hefyd fudd ehangach posibl i adnoddau’r GIG. Mae'n wych gweld sut mae cleifion yn cael eu cefnogi, wrth wneud newidiadau cadarnhaol i'w ffordd o fyw ac wrth ddod o hyd i nerth gan eraill sy'n mynd trwy brofiadau tebyg.”
Dywedodd Lowri Griffiths, Cadeirydd Cynghrair Canser Cymru:
“Mae cadw’n egnïol ar ôl cael diagnosis o ganser yn fuddiol a bellach mae gennym hyd yn oed rhagor o dystiolaeth y gall cymryd rhan mewn sesiynau rhagsefydlu sy’n canolbwyntio ar ddeiet, ymarfer corff a llesiant emosiynol gwell helpu pobl i wella’n gyflymach ar ôl eu llawdriniaeth.
“Mae hyn yn hynod bwysig os yw pobl hefyd yn mynd i gael triniaethau eraill fel cemotherapi neu radiotherapi. Mae bod mor iach â phosibl cyn llawdriniaeth yn golygu eich bod chi'n debygol o gael canlyniad gwell – mae'n hanfodol ein bod ni'n cymryd y dysgu hwn a'i gymhwyso ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru fel y gall cleifion elwa lle bynnag y bônt.”