Cyhoeddig: 18 Hydref
Mae nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn brwsio dannedd dan oruchwyliaeth mewn meithrinfeydd ac ysgolion wedi adfer yn dilyn pandemig Covid-19.
Ym mlwyddyn academaidd 2022/23, darparodd 1003 o feithrinfeydd ac ysgolion raglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth ddyddiol, gyda 50,705 o blant yn cymryd rhan. Dosbarthodd Cynllun Gwên i wella iechyd y geg 166,940 o becynnau brwsio dannedd gartref hefyd drwy ysgolion a meithrinfeydd, a dosbarthwyd 23,644 o becynnau pellach gan ymwelwyr iechyd.
Mae'r canfyddiadau a gyhoeddwyd yn adroddiad blynyddol Cynllun Gwên yn dangos adferiad sylweddol o ran nifer y plant ifanc sy'n cael budd, ar ôl y tarfu ar y rhaglen yn ystod pandemig Covid-19. Ym mlwyddyn academaidd 2021/22, cafodd 317 o feithrinfeydd ac ysgolion gymorth i ailddechrau brwsio dannedd dan oruchwyliaeth, sef 20 y cant o ysgolion a meithrinfeydd cymwys. Yn 2022/23, cymerodd 60 y cant o leoliadau addysg cymwys ran, gan ddangos cynnydd o 686. Fodd bynnag, mae lle i wella o hyd er mwyn adfer y cyfranogiad i lefelau cyn y pandemig, oherwydd bod 1,396 o ysgolion a meithrinfeydd (82 y cant o’r rhai a oedd yn gymwys) wedi cymryd rhan ym mlwyddyn academaidd 2018/19.
Meddai Dr Mary Wilson, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: ”Mae staff Cynllun Gwên ar draws y saith Bwrdd Iechyd Lleol wedi gweithio'n aruthrol o galed gyda'n meithrinfeydd a'n hysgolion penodedig i ailsefydlu'r rhaglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth.
“Mae hwn yn ymyriad sy'n seiliedig ar dystiolaeth, effeithiol sy'n cyfrannu at ein nod o leihau pydredd dannedd plentyndod, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig. Rydym wedi gweld adferiad tebyg yn y rhaglen farnais fflworid, ac rydym yn gobeithio am lwyddiant pellach yn y flwyddyn academaidd hon.”