Neidio i'r prif gynnwy

Mae atal iechyd gwael yn rhoi gwell gwerth am arian i GIG Cymru AC yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau

Cyhoeddwyd: 15 Ionawr 2025

Mae rhoi rhaglenni effeithiol ar waith i atal iechyd gwael yn cynnig gwerth gwych am arian. Gall mentrau atal megis addysg blynyddoedd cynnar, rhaglenni brechu, rhoi'r gorau i ysmygu a chymorth i ofalwyr ddarparu gwerth rhagorol am arian - gydag enillion cyfartalog o £14 am bob £1 a fuddsoddir ynddynt. Maent hefyd yn cadw pobl yn iachach ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau hefyd.

Mae hynny  yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n dweud ei bod hi'n bwysicach nag erioed i flaenoriaethu arian cyhoeddus i fesurau atal. Gallai helpu i wrthdroi’r dirywiad yn iechyd y genedl, mynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau a galluogi pobl Cymru i fyw bywydau hirach, iachach a hapusach.

Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod anghydraddoldebau iechyd yn costio £322 miliwn y flwyddyn i wasanaethau acíwt y GIG yng Nghymru. Mae anghydraddoldebau iechyd yn digwydd pan fo canlyniadau iechyd pobl yn wahanol oherwydd pethau fel ble maent yn byw, incwm, neu grŵp ethnig. Mae hyn yn golygu bod pobl yn ardaloedd tlotaf Cymru yn byw ar gyfartaledd 17 mlynedd yn llai iach o fywyd o gymharu â phobl yn y lleoedd cyfoethocaf. Yn ogystal, mae’r data’n datgelu ystadegau brawychus eraill ynghylch anghydraddoldebau iechyd:

  • Yn 2022-2023, roedd tua chwarter (24.8 y cant) o blant 4-5 oed yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew. Mae plant sy’n byw yn ardaloedd mwyaf cyfoethog Cymru yn fwy tebygol o gael pwysau iach.
  • Mae pobl sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig bron bedair gwaith yn fwy tebygol o farw o achosion y gellir eu hosgoi (3.7 gwaith ar gyfer dynion a 3.8 gwaith ar gyfer menywod).

Er bod yr ystadegau hyn yn llwm, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod modd mynd i’r afael â’r sefyllfa, a gall newid ddigwydd. Drwy ganolbwyntio buddsoddiad hirdymor ar raglenni atal ar raddfa fawr sydd â photensial uchel ar gyfer llwyddiant ledled y wlad, gellir gwneud cynnydd sylweddol o ran gwrthdroi’r anghydraddoldebau sydd wrth wraidd afiechyd yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn edrych ar raglenni llwyddiannus o dri cham bywyd: y blynyddoedd cynnar a phlant, oedolion iach, a heneiddio'n iach, ac mae'n nodi camau gweithredu penodol sy'n sicrhau manteision gwirioneddol i gymunedau.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gall rhaglenni cymorth bwydo ar y fron helpu i arbed £50 miliwn y flwyddyn i’r GIG drwy wella iechyd meddwl a lleihau derbyniadau i’r ysbyty
  • Mae gweithgareddau chwaraeon grŵp wedi’u targedu sydd â’r nod o gynyddu gweithgarwch corfforol yn dangos enillion o rhwng £1.91 a £22.37 am bob £1 a fuddsoddwyd.
  • Gall mabwysiadu ymagwedd gyfannol at gynnal iechyd da mewn henoed trwy weithgareddau fel rhaglenni atal codymau, hyrwyddo byw'n annibynnol ac ymgysylltu â'r gymuned gynhyrchu elw o hyd at £5.18 am bob £1 a fuddsoddir.

Dywedodd Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn gwybod bod iechyd da yn hawl ddynol sylfaenol, ond yng Nghymru mae gwahaniaethau annheg o ran sut mae cymunedau gwahanol yn profi iechyd da. Mae buddsoddi mewn atal yn hynod bwysig i gefnogi pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach.

“Mae’n hanfodol bod buddsoddi mewn atal yn parhau’n flaenoriaeth, gan fod y rhaglenni hyn yn gwella canlyniadau iechyd, yn lleihau anghydraddoldebau ac yn y pen draw yn lleihau effaith ariannol hirdymor iechyd gwael ar y GIG a’r gymdeithas ehangach yng Nghymru.”

Dywedodd Rebecca Masters, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd: “Mae’r dystiolaeth yn dangos yn glir bod rhaglenni atal yn rhoi elw sylweddol ar fuddsoddiad ac yn gallu ein helpu i gyflawni cenedl iachach. Mewn cyferbyniad, mae peidio â gwneud y gwaith hwn yn arwain at fwy o broblemau ar gyfer y dyfodol o ran effaith afiechyd ar unigolion a chymunedau. Nawr yn fwy nag erioed, mae atal anghydraddoldebau yn y dyfodol yn hanfodol i bawb yng Nghymru.”

Gellir dod o hyd i'r adroddiad yma.