Cyhoeddwyd: 24 Mehefin 2022
Mae angen i gyrff cyhoeddus wneud mwy i leihau ac ailddefnyddio eu gwastraff, gan symud eu ffocws presennol ar ailgylchu a chreu economi fwy cylchol ac iachach, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Er bod Cymru yn arweinydd byd-eang mewn cyfraddau ailgylchu gwastraff trefol (64 y cant), yn ail yn unig i'r Almaen (66 y cant), mae cyfanswm y gwastraff trefol (cilogram y pen) a grëwyd yng Nghymru yn uwch ar hyn o bryd nag yn Lloegr a'r Alban.
Mae'r adroddiad – ‘Economïau Cylchol ac Iechyd a Llesiant Cynaliadwy: Effaith iechyd cyhoeddus pan fydd cyrff cyhoeddus yn ailganolbwyntio ar leihau ac ailddefnyddio gwastraff yng Nghymru’, yn nodi sut y bydd gweithredu polisïau i leihau ac ailddefnyddio gwastraff, ochr yn ochr â chynlluniau ailgylchu yn cael effeithiau cadarnhaol posibl ar iechyd a llesiant ar gyfer poblogaeth gyfan Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thrwy hynny leihau llygredd aer, lleihau'r risg o ddigwyddiadau tywydd eithafol, cynhyrchu mwy o fwyd yn gynaliadwy a gwella iechyd meddwl a llesiant.
Mae yna effeithiau negyddol posibl hefyd, yn nhermau economaidd yn bennaf, fel colli cyflogaeth o bosibl mewn meysydd fel ailgylchu, llosgi, a safleoedd tirlenwi a dirywiad posibl o ran cyflogaeth bosibl yn y sector rheoli tirlenwi yn ystod y pontio o'r dull llinol presennol i system gylchol sy'n canolbwyntio ar leihau ac ailddefnyddio.
Ond byddai disgwyl i'r rhain fod yn gymharol tymor byr, gyda manteision mwy cadarnhaol yn cael eu gweld yn y tymor canolig i hirdymor.
Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus a Chyfarwyddwr Rhaglen Effaith ar Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae cyrff cyhoeddus wedi cymryd camau breision ymlaen i wella eu gallu ailgylchu dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn i'w ganmol. Ond gwyddom mai'r camau mwyaf y gallwn eu cymryd i wella'r ffordd rydym yn trin gwastraff i leihau'r swm a gynhyrchwn.
“Lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu’ yw'r is-bennawd ar gyfer yr hierarchaeth wastraff, ond mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu y gall polisïau ar gyfer ailgylchu wrthdaro mewn gwirionedd â'r rhai a fwriedir i leihau gwastraff yn y lle cyntaf a chadw adnoddau ar eu lefel uchel o werth cyhyd ag y bo modd. Ni ddylid tybio y gall polisïau ar gyfer lleihau ac ailddefnyddio felly gael eu hychwanegu at bolisïau presennol heb y risg o ganlyniadau anfwriadol – mae angen dull systemig.
“Yn anffodus, mae gofynion uniongyrchol pandemig y Coronafeirws wedi arwain at gamau gweithredu sydd wedi atgyfnerthu dulliau rheoli gwastraff llinol, e.e., llosgi, a’r effaith ar brosesau ailgylchu. Mae hyn yn peri risg i gynnydd ar ddulliau economi gylchol a gwireddu'r manteision iechyd cysylltiedig. Mae polisïau acíwt sy'n ymateb i'r pandemig hefyd wedi cael y canlyniad anfwriadol o rwystro ymatebion cyn y pandemig i'r argyfwng hinsawdd a llygredd plastig untro. Mae'r rhain yn faterion y mae angen mynd i'r afael â nhw ar frys yn awr.”
Mae economi gylchol yn rhan o'r ateb i'n hargyfwng hinsawdd byd-eang - un lle mae cynnyrch, gwasanaethau a systemau wedi'u cynllunio i sicrhau eu gwerth mwyaf posibl a lleihau gwastraff. Mae'n ddull hollgynhwysol at fywyd a busnes, lle mae gan bopeth werth a lle nad oes dim yn cael ei wastraffu. Yn syml, gellir ei esbonio fel 'gwneud, defnyddio, ail-wneud' yn hytrach na 'gwneud, defnyddio, gwaredu'.
Mae'r adroddiad yn gynnyrch tystiolaeth a gasglwyd o gyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid, llenyddiaeth lwyd, sefydliadau trydydd sector a Sefydliad Iechyd y Byd, gwefannau cyrff cyhoeddus a thystiolaeth ansoddol gan randdeiliaid ac mae'n gwneud cyfres o argymhellion, gan gynnwys y dylai cyrff cyhoeddus gael eu dwyn i gyfrif am eu defnydd o adnoddau gan Lywodraeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, a'u harweinyddiaeth
Cymerodd 28 o randdeiliaid o 15 o gyrff cyhoeddus ran mewn naill ai gweithdy neu drafodaethau grŵp bach.