Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau gwell i boblogaethau agored i niwed drwy ymchwil data cysylltiol

Cyhoeddwyd: Dydd Mercher 26 Mawrth 2025

Mae cyfres o adroddiadau Mewnwelediadau Data wedi'u cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel rhan o raglen Gwell Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiol (BOLD).  Ceisiodd rhaglen BOLD gysylltu setiau data gweinyddol er mwyn dod â mewnwelediadau newydd i lywio polisi a thrawsnewid gwasanaethau i unigolion agored i niwed a phobl ag anghenion cymhleth.

Roedd rhaglen BOLD yn gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, ac Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Daeth i ben ym mis Mawrth 2025.

Datblygodd tîm ymchwil BOLD Cymru, yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Banc Data SAIL ac YDG Cymru, raglen ymchwil camddefnyddio sylweddau uchelgeisiol a thrawsbynciol, gan ddefnyddio dull cwrs bywyd a chwmpasu pedwar maes allweddol ar gyfer gwella polisi a gwasanaethau:

  • Defnydd o sylweddau rhwng y cenedlaethau
  • Atal ac ymgysylltu cynnar i leihau achosion o waethygu
  • Lleihau aildroseddu 
  • Effeithiolrwydd triniaeth camddefnyddio sylweddau

Bydd yr ymchwil yn cael ei chyflwyno yn Arddangosfa BOLD Cymru ym mis Mawrth drwy gynadleddau a gweithdai drwy gydol y flwyddyn, ynghyd â chyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid.

Gellir dod o hyd i'r adroddiadau yma:

Gwell canlyniadau drwy ddata cyslltiol addroddiadau

Cyfleoedd posibl i leihau’r cynnydd yn y camddefnydd o sylweddau: Astudiaeth gyswllt data arsylwadol ôl-weithredol yng Nghymru 

Anomaleddau’r ffoetws sy’n gysylltiedig â chamddefnydd y fam o sylweddau Astudiaeth cyswllt data yng Nghymru

Ymchwilio i’r cysylltiad rhwng oedolion sy’n camddefnyddio sylweddau a chanlyniadau iechyd a chyfiawnder troseddol plant ar yr aelwyd 

Canlyniadau hirdymor pobl sy’n cael eu trin am gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru – Astudiaeth cysylltu data 

Camddefnyddio sylweddau, cyswllt â'r gwasanaeth iechyd a'r risg o farwolaeth: Astudiaeth cysylltu data yng Nghymru

EGLURO’R DATA: Archwiliad ac ystyriaethau ansawdd data Cronfa Ddata Genedlaethol Cymru ar Gamddefnyddio Sylweddau (WNDSM)

Mae rhagor o wybodaeth am raglen BOLD yma: Gwell Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiol (BOLD)