Cyhoeddus: 28 Medi 2023
Gwnaeth yr Adroddiad Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol 46: Pum Amod Hanfodol ar gyfer Tegwch Iechyd archwilio penderfynyddion annhegwch iechyd ac amlygu pum maes polisi lle gellid cymryd camau gweithredu i leihau annhegwch.
Canfu'r adroddiad ym mhob gwlad ceir gwahaniaethau eang o ran statws iechyd grwpiau cymdeithasol gwahanol, gyda'r duedd gyffredinol yn dangos po isaf yw sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolyn, y mwyaf tebygol ydyw o brofi iechyd gwael a bod mewn perygl o iechyd gwael. Mae gan yr annhegwch hwn gostau cymdeithasol ac economaidd sylweddol, i unigolion a chymdeithasau. Mae'r darlun cyffredinol yn dangos bod polisïau sy'n dosbarthu mwy o adnoddau i ardaloedd sydd â mwy o anghenion iechyd, cymdeithasol ac economaidd yn cael effaith gadarnhaol ar leihau bylchau iechyd rhwng grwpiau cymdeithasol ac ardaloedd daearyddol.
Meddai Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol: “Mae anghydraddoldebau iechyd yn wahaniaethau y gellir eu hosgoi, annheg a systematig mewn iechyd rhwng grwpiau o bobl. Mae sawl ffactor yn penderfynu mor iach ydych ond mae'r amodau a'r amgylchedd rydych yn byw ynddynt yn chwarae rhan bwysig. Yn aml, nid oes gan unigolion reolaeth uniongyrchol dros y penderfynyddion iechyd hyn. Felly, dylai polisïau a dulliau o fynd i'r afael â thegwch iechyd ymdrin â holl benderfynyddion cymdeithasol iechyd ac maent yn ei gwneud yn ofynnol gweithredu ar lefel systemau.”
Mae'r adroddiad yn cyflwyno pum maes polisi amlsectoraidd eang a gyhoeddir gan Swyddfa Ewrop Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu Sefydliad Iechyd y Byd yn ei fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESRi) i fynd i'r afael â bylchau iechyd cymhleth a pharhaus. Dyma'r rhain:
Gwasanaethau iechyd – Polisïau sy'n ceisio sicrhau argaeledd, hygyrchedd, fforddiadwyedd ac ansawdd gwasanaethau ac ymyriadau iechyd.
Diogelwch incwm a diogelwch cymdeithasol – Polisïau sy'n ceisio darparu diogelwch economaidd a chymorth i leihau canlyniadau iechyd a chymdeithasol tlodi neu incwm isel.
Amodau byw – Polisïau sy'n ceisio sicrhau mynediad at amgylcheddau sy'n cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd pobl.
Cyfalaf cymdeithasol a dynol – Polisïau sy'n ceisio cryfhau cysylltiadau cymdeithasol ac asedau cymunedol gan gynnwys addysg, sgiliau, adnoddau cymunedol ac ymyriadau cymdeithasol ystyrlon.
Cyflogaeth ac amodau gwaith – Polisïau sy'n ceisio gwella effaith iechyd cyflogaeth, amodau gwaith a chydraddoldeb yn y gweithle.
Ar gyfer pob amod hanfodol, mae'r adroddiad hefyd yn rhoi enghreifftiau rhyngwladol o arfer gorau a pholisïau effeithio ar lefel systemau i fynd i'r afael â thegwch iechyd.