Cyhoeddwyd: 6 Chwefror 2024
Mae Adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio'r ddau gynnyrch cyntaf mewn cyfres o adnoddau i helpu staff mewn gofal sylfaenol i gael sgyrsiau er mwyn cefnogi pobl i fabwysiadu ymddygiad iachach.
Mae'r adnoddau wedi'u targedu at wahanol rannau o'r gweithlu gofal sylfaenol, gyda'r ddau gyhoeddiad cyntaf ar gyfer y rhai sy'n gweithio mewn meddygaeth deulu ac optometreg. Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio i helpu'r gweithlu rheng flaen i ddechrau sgyrsiau am ymddygiad iach a chyfeirio pobl i ragor o wybodaeth, yn ogystal â nodi camau gwella ansawdd i wasanaethau.
Mae'r adnoddau'n trafod ymddygiad iechyd allweddol, mewn perthynas â smygu, alcohol, pwysau iach, gweithgarwch corfforol, ac atal diabetes math 2, ynghyd â gwybodaeth ynghylch Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif a phresgripsiynu cymdeithasol.
Mae'r adnoddau hefyd yn atgoffa staff i feddwl am eu hymddygiad iechyd eu hunain, ac y gallan nhw hefyd gael mynediad i'r gwasanaethau cymorth a amlinellir.
Meddai Zoe Wallace, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol yn cael llawer o gyfleoedd i siarad ag unigolion a'u hannog i fabwysiadu ymddygiad iachach, ond cydnabyddir nad yw'r rhain bob amser yn sgyrsiau hawdd i'w cael.
“Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio i helpu'r gweithlu gofal sylfaenol i arwain unigolion tuag at fabwysiadu ymddygiad iach a darparu rhagor o ffynonellau cymorth iddynt.
“Mae'r adnoddau ar gyfer cydweithwyr ym maes meddygaeth deulu ac optometreg wedi'u rhyddhau, a bydd adnoddau ar gyfer y gweithluoedd fferyllfa gymunedol a deintyddol yn dilyn.”