Neidio i'r prif gynnwy

Llesiant meddyliol gwell yn gysylltiedig ag iechyd y galon gwell

Cyhoeddwyd: 26 Chwefror 2026

Mae llesiant meddyliol gwell yn gysylltiedig ag iechyd y galon gwell. Mae tystiolaeth newydd yn dangos ei fod yn gysylltiedig â marwolaethau cardiofasgwlaidd is a ffactorau risg is fel pwysedd gwaed uchel a lefelau colesterol afiach.

Comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgaredd a Llesiant Prifysgol Metropolitan Caerdydd i gynnal adolygiad cyflym o dystiolaeth astudiaethau a adolygwyd gan gymheiriaid a gyhoeddwyd rhwng 2005 a 2025.  Nododd yr adolygiad 12 astudiaeth berthnasol a chanfu'r cysylltiadau cryfaf a mwyaf cyson ymhlith oedolion 50 oed a hŷn.  Roedd tystiolaeth ar gyfer grwpiau iau yn fwy cymysg lle gallai ymddygiadau fel deiet, ysmygu a gweithgarwch corfforol chwarae rhan fwy. 

Mae'r astudiaeth yn annog clinigwyr a gwasanaethau sy'n cefnogi iechyd cardiofasgwlaidd i gydnabod llesiant meddyliol fel rhan bwysig o iechyd, gan gynnwys holi ynghylch llesiant meddyliol, ei fesur a chyfeirio pobl at gyngor llesiant, fel rhan o ddull holistaidd o wella iechyd y galon. 
 

Canfu fod pobl â llesiant meddyliol gwell yn tueddu i gael pwysedd gwaed is, a bod llesiant gwael yn gysylltiedig â risg uwch o glefyd y galon a strôc. 

Gall hormonau straen gan gynnwys cortisol ac adrenalin effeithio'n negyddol ar iechyd cardiofasgwlaidd. Mae hyn yn darparu mecanwaith posibl ar gyfer deall dylanwad llesiant gwell ar iechyd y galon, yn ogystal ag ymddygiadau fel gweithgarwch corfforol.  

Canfu'r astudiaeth hefyd dystiolaeth bod ymdeimlad uwch o berthyn yn rhagweld iechyd y galon gwell ymhlith pobl ifanc. Mae cysylltiad cymdeithasol yn gysylltiedig â lefelau uwch o ocsitosin sydd ag effeithiau lleddfu straen a gall gyfrannu at y cysylltiad hwn. 

Mae'r dystiolaeth hon yn cefnogi symudiad ehangach tuag at waith atal, drwy gryfhau gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned i sicrhau y gall gwasanaethau ymateb yn gynnar a chefnogi pob agwedd ar iechyd a llesiant pobl, yn enwedig i bobl sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor. 

Dywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r ymchwil hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gofalu am ein llesiant meddyliol nid yn unig er budd ein hiechyd meddwl ond ein hiechyd corfforol hefyd. Nid yw llesiant meddyliol da yn rhywbeth 'braf i'w gael', mae'n hanfodol i'n hiechyd cyffredinol a'n hansawdd bywyd. 

“Mae’r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at yr angen i glinigwyr drin llesiant meddyliol fel rhan greiddiol o iechyd cyffredinol, trwy holi yn ei gylch yn rheolaidd a chyfeirio pobl at wasanaethau cymorth dibynadwy fel hapus.wales.” 

Dywedodd Dr Britt Hallingberg, a arweiniodd y gwaith ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd:

“Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y ffaith ei bod hi’n bwysig ystyried llesiant o ran datblygiad clefydau cardiofasgwlaidd. Mae angen ymchwil yn y dyfodol i ddeall sut mae risg clefyd cardiofasgwlaidd yn newid os yw llesiant yn gwella dros amser.”