Mae plant a theuluoedd mewn tlodi yng Nghymru yn parhau i fyw mewn cartrefi nad ydynt yn rhai iach i fyw ynddynt ac mae'n cael effaith negyddol ar eu hiechyd, eu datblygiad, eu haddysg, eu llesiant a'u cyfleoedd bywyd. Drwy ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid a thrwy gael ei lywio gan brofiad bywyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi amlinellu pedwar o flaenoriaethau galluogi ar gyfer llunio dyfodol tai iachach i Gymru.
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – Lle i ffynnu: creu cartrefi iachach i blant a theuluoedd mewn tlodi ledled Cymru – yn tynnu sylw at brofiad bywyd pobl y mae eu cartrefi’n effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y gwaith ymgysylltu â theuluoedd, ynghyd â rhanddeiliaid yn y sector, wedi helpu i nodi a mireinio pedwar maes gweithredu i helpu i lunio dyfodol iachach ar gyfer tai yng Nghymru. Y meysydd hyn yw:
Ymgorffori iechyd a llesiant mewn Strategaeth Tai ac Adfywio i Gymru
Cynnwys y rhai y mae polisi tai yn effeithio arnynt yn ei ddatblygiad, yn enwedig teuluoedd sy'n byw mewn tlodi
Gweithio ar draws sectorau a rhannu data i ddarparu cefnogaeth gydlynol a chanolbwyntio ar atal
Dysgu o gymhwyso Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIAs)
Mae tai yn un o'r blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer bywyd iach, ac mae pob agwedd ar ein cartrefi a lle rydym yn byw yn effeithio ar ein hiechyd a'n llesiant corfforol a meddyliol. Pan fo plant a theuluoedd yn byw mewn cartrefi sy'n oer, yn llaith, ac yn orlawn, er enghraifft, neu sy'n rhoi straen ar gyllid teuluoedd, mae’n achosi niwed i iechyd fel problemau anadlu, straen, a rhagor o afiechydon.
O fewn y meysydd blaenoriaeth uchod, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatrysiadau ymarferol y gall llunwyr polisi, rhanddeiliaid a phartneriaid ar draws sectorau eu rhoi ar waith i wella tai i blant a theuluoedd mewn tlodi.
Mae'r rhain yn cynnwys cynyddu argaeledd cartrefi iach a fforddiadwy, yn enwedig tai cymdeithasol, codi safonau tai rhent preifat a blaenoriaethu ymyrraeth gynnar ac atal yn y sector trwy weithio gyda theuluoedd a chymunedau i ddylunio gwasanaethau integredig sy'n seiliedig ar leoedd.
“Trawmatig”, “gorlawn” a “chodi cywilydd” oedd rhai o’r geiriau a ddefnyddiodd un cyfranogwr i ddisgrifio sefyllfa tai ei deulu. Ar ôl dod yn ddigartref pan werthodd eu landlord eu tŷ, cafodd y cyfranogwr a'u teulu eu lleoli mewn llety gwesty dros dro. Roedd byw gyda'i gilydd mewn un ystafell wedi cael effaith ddifrifol ar lesiant y teulu. Dywedodd fod ei blant wedi mynd yn “dawedog iawn ac yn isel eu hysbryd”, a bod eu gwaith ysgol yn “ddiffygiol” oherwydd anawsterau byw mewn amodau cyfyng. Profodd ei bartner ddwy chwalfa feddyliol hefyd yn ystod eu hamser mewn llety dros dro.
Siaradodd unigolyn arall am yr effaith ar iechyd corfforol ei deulu, a oedd yn cynnwys lleithder a llwydni rheolaidd a olygai fod ei mab naw oed, sydd â chyflwr y galon, yn mynd yn sâl dro ar ôl tro: “Cyn gynted ag y byddai’n gorffen un cwrs o feddyginiaeth, byddai’n dechrau ar un arall”. Er gwaethaf atgyweiriadau i'r tŷ, mae hi'n dweud bod llwydni a lleithder yn dod "yn syth yn ôl", a'i fod "o amgylch y ffenestri, y nenfwd ac yn dod trwy'r waliau". Mae un arall o'i phlant wedi gorfod cael anadlydd asthma, sydd ei angen yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.
Dywedodd Dr Joe Rees, Uwch Swyddog Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn gwybod bod y cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi camau gweithredu i wella tai ac i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy, diogel ac o ansawdd da ar gael i bawb.
“Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at realiti dyddiol teuluoedd sy’n wynebu’r niwed i iechyd sy’n deillio o dai gwael. Drwy ddod â’r rhain i’r amlwg, ochr yn ochr â mewnwelediadau gan sefydliadau sy’n ymwneud â thai yng Nghymru, rydym wedi nodi blaenoriaethau clir a chyffredin sy’n dangos sut y gallwn adeiladu dyfodol pan fo potensial ein cartrefi i ddiogelu a gwella iechyd pawb yng Nghymru yn cael ei wireddu.”
Mae'r adroddiad i'w gael yma.