Cyhoeddwyd: 25 Mawrth 2025
Mae adnodd newydd i helpu sefydliadau i gynllunio ac adeiladu gwytnwch yn erbyn ansicrwydd yn cael ei lansio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae sganio’r gorwel yn galluogi sefydliadau i ragweld cyfleoedd a risgiau yn y dyfodol, gan eu helpu i addasu mewn byd sy’n esblygu’n barhaus. Drwy wreiddio’r dull hwn yn eu prosesau cynllunio strategol a gwneud penderfyniadau, gall sefydliadau wneud penderfyniadau mwy gwybodus sy’n cyfrannu at lwyddiant a chynaliadwyedd hirdymor.
Nod yr adnodd newydd yw arfogi sefydliadau â'r sgiliau a'r dulliau sydd eu hangen i weithredu sganio'r gorwel yn effeithiol. Mae’r pecyn cymorth yn arbennig o werthfawr i gyrff cyhoeddus sy’n gweithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan sicrhau bod cynllunio hirdymor yn parhau i fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru.
Dywedodd Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae sganio’r gorwel yn arf hanfodol ar gyfer deall a pharatoi ar gyfer y tueddiadau iechyd hirdymor a fydd yn llywio llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r adnodd hwn yn darparu dull strwythuredig o nodi arwyddion cynnar o newid, gan helpu gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol i ragweld heriau a chyfleoedd iechyd sy’n dod i’r amlwg. Trwy wreiddio rhagwelediad yn ein penderfyniadau, gallwn gymryd camau rhagweithiol i wella canlyniadau iechyd ac adeiladu system iechyd y cyhoedd fwy gwydn.”
Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
“Mewn byd sy’n newid yn gyflym, mae’r gallu i edrych ymlaen a rhagweld heriau’r dyfodol yn bwysicach nag erioed. Mae sganio’r gorwel yn grymuso cyrff cyhoeddus i symud y tu hwnt i bwysau tymor byr a meddwl yn strategol am risgiau a chyfleoedd hirdymor.
Mae’r pecyn cymorth yn cynnig dull strwythuredig o sganio’r gorwel, gan gynnwys canllawiau ar gasglu gwybodaeth, dadansoddi data, a throsi mewnwelediadau i gamau gweithredu. Mae hefyd yn cynnwys cwestiynau allweddol i sefydliadau eu hystyried cyn dechrau, gan sicrhau bod ganddynt ddiben clir a’r adnoddau angenrheidiol i ymgymryd â’r broses yn effeithiol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn annog sefydliadau ledled Cymru i archwilio’r pecyn cymorth ac ymgorffori sganio’r gorwel yn eu prosesau cynllunio. Drwy feddwl ymlaen, gall sefydliadau wneud penderfyniadau mwy gwybodus sy’n cyfrannu at ddyfodol iachach, mwy gwydn i bawb.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael mynediad at y pecyn cymorth, ewch i :
https://icccgsib.co.uk/adnoddau/sganior-gorwel-a-ddylai-eich-sefydliad-ei-wneud-ac-os-felly-sut/