Heddiw (ddydd Llun, 6 Ebrill), mae Cell Gwyliadwriaeth Coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio dangosfwrdd data rhyngweithiol i alluogi’r system iechyd, y cyhoedd a’r cyfryngau yng Nghymru i ddarganfod mwy am y feirws yng Nghymru.
Caiff y dangosfwrdd ei ddiweddaru bob dydd am 2pm, a dyma fydd prif ffynhonnell data iechyd y cyhoedd yn ymwneud â Coronafeirws yng Nghymru.
Ar adeg lansio, mae’r dangosfwrdd yn cynnwys gwybodaeth am nifer yr achosion a gadarnhawyd yng Nghymru fesul ardal awdurdod lleol, nifer yr unigolion a brofwyd, ac oedran a rhyw yr achosion a gadarnhawyd.
Meddai Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i'r achos o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym wedi bod yn gweithio i ddatblygu’r dangosfwrdd newydd hwn mewn amgylchiadau anodd ac sy’n newid o hyd. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd y dangosfwrdd hwn yn lleihau’r pwysau ar ein tîm sydd wedi bod yn cynhyrchu ac yn diweddaru’r wybodaeth hon â llaw tan nawr.
“Bydd yr adnodd hwn am ddata Coronafeirws yng Nghymru ac sy’n hawdd ei ddefnyddio yn siop-un-stop ar gyfer y system iechyd yng Nghymru, a bydd hefyd yn helpu’r cyfryngau a’r cyhoedd i ddeall sut mae’r feirws yn effeithio ar ein poblogaeth.”
Bydd y dangosfwrdd yn parhau i gael ei ehangu er mwyn cynnwys gwybodaeth newydd. Bydd yr adeg ryddhau am 2pm yn cyd-fynd â chyhoeddi datganiad dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru am Coronafeirws.