Neidio i'r prif gynnwy

Lansio ap dwyieithog i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu yng Nghymru

Bydd ap newydd yn cynnig cymorth personol, dwyieithog a rhad ac am ddim i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu am byth ledled Cymru. 

Mae ap ffôn symudol newydd Helpa Fi i Stopio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu llwybr ychwanegol i bobl sydd eisiau rhoi'r gorau iddi gyda chymorth digidol hyblyg, gan gynnwys y rhai nad ydynt o bosibl eisiau defnyddio gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu traddodiadol. 

Ysmygu yw prif achos marwolaethau a chlefydau y gellir eu hatal ymhlith oedolion hŷn na 35 oed yng Nghymru o hyd. Mae’n achosi cyfartaledd o 3,845 o farwolaethau, sef 10 y cant o'r holl farwolaethau yn y grŵp oedran hwn a thros 17,000 o dderbyniadau i'r ysbyty bob blwyddyn.  
 
Er bod cyfraddau ysmygu yn parhau i ostwng, mae llawer o bobl yn dal i geisio rhoi'r gorau iddi heb gymorth, er gwaethaf tystiolaeth sy'n dangos bod defnyddio gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu arbenigol y GIG yn rhoi'r cyfle gorau i bobl roi'r gorau iddi am byth. 

Mae'r ap yn lansio ar Ddiwrnod Dim Ysmygu (dydd Mercher 11 Mawrth 2026), sef diwrnod cenedlaethol sy'n annog ac yn ysgogi pobl i gymryd y cam cyntaf tuag at fywyd iachach, di-fwg. 

Mae'n cynnig cymorth ymddygiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth y gall pobl ei ddefnyddio 24/7, ac mae'n cyfeirio defnyddwyr at wasanaethau arbenigol Helpa Fi i Stopio am gymorth pellach. Mae hefyd yn galluogi defnyddwyr i osod dyddiad rhoi'r gorau i ysmygu, cofnodi a ydynt yn ysmygu a phryd, cofnodi cymhellion, ac olrhain cynnydd dros amser. Mae'r offer yn cynnwys cyfrifiannell sy'n dangos arian a arbedwyd a gwelliannau iechyd ers rhoi'r gorau iddi, ochr yn ochr â chynnwys ysgogol fel fideos i helpu pobl i reoli chwantau a sbardunau. 

Mae'r lansiad hwn yn cefnogi galwad ehangach Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud dewisiadau iach yn haws yn ein bywyd bob dydd. Mae creu amgylcheddau lle mae tybaco a chynhyrchion fepio yn llai gweladwy, yn llai deniadol ac nad ydynt bellach yn cael eu gweld fel rhan arferol o fywyd bob dydd yn helpu pobl sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi ac yn atal cenedlaethau'r dyfodol rhag dechrau. 

Dywedodd Chris Emmerson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ap newydd hwn yn rhoi teclyn newydd pwerus i bobl yng Nghymru i’w helpu i roi’r gorau i ysmygu. Rydyn ni'n gwybod bod llawer o ysmygwyr eisiau rhoi'r gorau iddi, ond mae llawer yn ceisio ar eu pen eu hunain heb gymorth.  

“Mae ap Helpa Fi i Stopio yn dod â chymorth ymddygiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn uniongyrchol i ddwylo pobl—pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen arnynt. Rydym wrth ein bodd yn lansio'r ap ar Ddiwrnod Dim Ysmygu, amser pan fo cynifer o bobl yn cael eu cymell i wneud newid cadarnhaol i wella eu hiechyd.” 

Ychwanegodd Jim McManus, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ap yn ategu ein gwasanaethau Helpa Fi i Stopio presennol ac yn darparu man cychwyn syml i unrhyw un sy’n ystyried rhoi’r gorau iddi. P'un a yw rhywun eisiau rhoi'r gorau iddi heddiw, yr wythnos nesaf neu ddim ond yn archwilio eu hopsiynau, mae'r ap yn eu tywys bob cam o'r ffordd. Os bydd angen cymorth ychwanegol ar ddefnyddwyr, mae'r ap yn ei gwneud hi'n hawdd cysylltu'n uniongyrchol â'n cynghorwyr rhoi'r gorau i ysmygu ymroddedig. 

Bydd ap Helpa Fi i Stopio yn parhau i esblygu dros amser, gan ddefnyddio adborth a thystiolaeth i gryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ledled Cymru sydd eisiau rhoi'r gorau iddi. 

I gael yr ap 

• Ewch i: helpafiistopio.cymru

• Lawrlwythwch: Ar gael ar yr App Store a Google Play 

• Sganiwch: Cod QR ar bosteri ymgyrch a deunyddiau partneriaid