Cyhoeddwyd: 12 Mai 2022
Mae prosiect sy'n ceisio cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn Ne Cymru, wedi cael y golau gwyrdd, diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae'r prosiect ‘Meddwl Ymlaen’, Maniffesto Iechyd Meddwl; Gweithredu ar gyfer ein Dyfodol wedi derbyn £900,472 gan Gronfa'r Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid yn galluogi menter gymdeithasol yng Nghaerdydd, Llesiant Rhieni Sengl a Heads Above The Waves, i weithio gyda phobl ifanc 10-24 oed i ddatblygu a gweithredu dulliau i gefnogi eu hiechyd meddwl a'u cydnerthedd.
Mae'r bartneriaeth yn cynnwys y Sefydliad Iechyd Meddwl, Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth Prifysgol Abertawe ac Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, a fydd yn gweithio gyda'i gilydd i ddeall yn well beth sy'n gweithio i gefnogi iechyd meddwl pobl dros y pedair blynedd nesaf.
Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn gwybod bod pandemig y Coronafeirws wedi effeithio'n ddifrifol ar iechyd meddwl pobl ifanc, a bod angen gweithredu ar frys i sicrhau dyfodol iach a hapus i'r rhai yr effeithir arnynt.
“Ein rôl yn y prosiect cyffrous hwn fydd defnyddio ein harbenigedd i werthuso a llywio gweithgareddau'r prosiect gan ddefnyddio methodolegau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau bod ei ddatblygiad yn seiliedig ar wybodaeth bresennol o'r safonau uchaf.”
Meddai Amy Holland, Cyfarwyddwr Llesiant Rhieni Sengl:
“Bydd y prosiect arloesol hwn, sy'n cael ei gyd-gynhyrchu ac sy'n dilyn dull dysgu gweithredol, yn sicrhau y bydd lleisiau pobl ifanc 10-24 oed, o aelwydydd rhieni sengl yn cael eu clywed a byddant yn cael eu grymuso i adeiladu dyfodol iach yn feddyliol. Mae'r pum partner anhygoel i gyd yn dod â rhywbeth gwych i'r prosiect ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i ddechrau arni.”