Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd gwael yng Nghymru sy'n atal pobl rhag gweithio yn costio bron i £20 biliwn y flwyddyn

Cyhoeddwyd: 30 Mawrth 2026

Dengys canfyddiadau newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod afiechyd ac anabledd sy'n atal pobl rhag gweithio yn costio tua £19.4 biliwn y flwyddyn yng Nghymru. 

Mae'r gost hon yn cynnwys diwrnodau gwaith a gollir oherwydd absenoldeb salwch, pobl o oedran gweithio sydd allan o waith oherwydd salwch a ddim yn chwilio am waith, rhoi gofal anffurfiol sy'n gysylltiedig â salwch, refeniw treth a gollwyd, costau'r GIG a thalu budd-daliadau.

Mae gwaith diogel, teg am dâl yn helpu pobl i aros yn iachach am yn hirach. Mae'n rhoi ymdeimlad o bwrpas ac arian i dalu am fwyd iach a chartref diogel i'w cadw nhw a'u teulu yn iach. Mae darparu cymorth cynnar i helpu pobl i gael gwaith da ac aros mewn gwaith da yn helpu’r teuluoedd hynny a’r economi ehangach. Mae cryfhau diogelwch ariannol yn allweddol i wella iechyd ac adeiladu economi gryfach a chynhwysol yng Nghymru. 

Dywedodd Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ym maes Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Yng Nghymru, mae llawer o bobl yn treulio mwy o’u bywydau mewn iechyd gwael, o ganlyniad i’r ffaith bod y blociau adeiladu fel tai o safon neu waith da a theg sydd eu hangen arnom i’n cadw’n iach, yn gallu bod yn ddiffygiol neu’n absennol. Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd allan o waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i afiechyd, yn enwedig afiechyd meddwl ymhlith pobl iau, a phroblemau cyhyrysgerbydol mewn pobl hŷn.

Mae pobl â chyflyrau iechyd yn fwy tebygol o ddechrau gweithio os byddant yn cael cymorth cynnar, wedi'i deilwra, ac maent yn fwy tebygol o aros mewn gwaith os oes ganddynt gyflogwr hyblyg a chefnogol sy’n barod i’w helpu. Mae'r ymchwil hon yn dangos y goblygiadau economaidd sy’n deillio o afiechyd ac anabledd sy'n atal pobl rhag gweithio. Mae’n dangos pwysigrwydd buddsoddi mewn gwaith atal er mwyn cadw pobl yn iach a chefnogi cyfranogiad mewn gwaith teg.” 

Amcangyfrif o'r gost gyfan:

Elfen gost

Disgrifiad

Amcangyfrif

Anweithgarwch Economaidd oherwydd afiechyd

Colli allbwn o ganlyniad i afiechyd ymhlith pobl o oedran gweithio sy'n eu rhwystro rhag gweithio

£8.2 biliwn

Absenoldeb salwch

Colli allbwn oherwydd absenoldeb salwch

£2.9 biliwn

Rhoi gofal anffurfiol o ganlyniad i afiechyd

Colli allbwn oherwydd bod gofalwyr o oedran gweithio yn gofalu am bobl o oedran gweithio sy'n sâl

£2.3 biliwn

Cost i’r GIG

Y costau ychwanegol i'r GIG pan fydd rhywun â phroblem iechyd yn economaidd anweithgar yn hytrach nag yn economaidd weithgar

£155.6 miliwn

Taliadau budd-daliadau

Cost budd-daliadau nawdd cymdeithasol sy'n gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n rhwystro pobl rhag gweithio

£2.4 biliwn

Llifiadau yn ôl i'r Trysorlys

Treth ac Yswiriant Gwladol a gollir o ganlyniad i beidio â gweithio sy'n gysylltiedig ag iechyd

£3.4 biliwn

Cyfanswm

£19.4 biliwn

 

CYMRU IACH AR WAITH

Mae Cymru Iach ar Waith yn rhaglen genedlaethol rad ac am ddim sy’n ceisio gwella iechyd ac atal afiechyd yn y gwaith trwy gefnogi cyflogwyr yng Nghymru. Caiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chyflwyno gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

 

Gall helpu i gefnogi cyflogwyr i wneud y canlynol: 

  • Creu amgylcheddau ac arferion gwaith iach a diogel
  • Cymryd camau i wella iechyd a llesiant staff a hybu ymddygiad iach.
  • Atal a rheoli absenoldeb salwch, rhoi cymorth effeithiol i bobl ddychwelyd i'r gwaith, ac atal pobl rhag bod yn absennol o’r gwaith oherwydd afiechyd.
  • Cefnogi'r rhai â chyflyrau cronig i aros yn y gwaith

Yn ddiweddar, mae'r tîm wedi datblygu Offeryn Arolwg i Gyflogwyr newydd y gellir ei ddefnyddio i fesur lefel iechyd a llesiant bresennol gweithle. 

Gallant yna ofyn am Gynghorydd Iechyd yn y Gweithle i gael cyngor arbenigol un i un am ddim i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.

Dywedodd Oliver Williams, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd: “Mae Cymru Iach ar Waith yn rhoi cymorth clir ac ymarferol i gyflogwyr i amddiffyn a hyrwyddo llesiant staff. Pan fydd cyflogwyr yn buddsoddi mewn iechyd a llesiant staff, maent yn creu gweithleoedd cryfach, hapusach a mwy cynhyrchiol. Am bob £1 sy’n cael ei wario ar gefnogi iechyd meddwl a llesiant eu gweithlu, mae cyflogwyr yn cael tua £4.70 yn ôl am fod y cynhyrchiant yn uwch.

ASTUDIAETHAU ACHOS:

Mae Penseiri Pentan, sydd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, wedi bod yn gyfranogwyr balch yng nghynllun Cymru Iach ar Waith ers 7 mlynedd.

Dywedodd Claire Griffiths, Cyfarwyddwr Cyswllt a Rheolwr y Practis: “Fel tîm, rydyn ni’n gofalu am ein gilydd. Mae llesiant ein tîm, yn gorfforol ac yn seicolegol, wedi bod yn hanfodol i'r practis erioed. Iechyd sy'n dod yn gyntaf. Rydym yn annog gweithle cefnogol lle mae pobl yn mwynhau dod i'r gwaith ac yn teimlo eu bod yn gallu dod â'u hunain yn gyfan gwbl i'r swyddfa. Gwnaeth ymuno â’r rhaglen Cymru Iach ar Waith roi fframwaith clir inni adeiladu ar yr ethos hwn ac i gryfhau'r ffordd rydym yn hyrwyddo iechyd a llesiant ar draws y practis.

“Rydym wedi cyflwyno amrywiaeth eang o fentrau, o sgyrsiau iechyd dan arweiniad arbenigwyr ar ganser y prostad, dementia, canser y fron ac ymwybyddiaeth o HIV fel rhan o Ddiwrnod AIDS y Byd, i sesiynau ar fwyta’n iach, technegau i ymdopi â gorbryder a gweithdy penodol ar orbryder. Rydym hefyd wedi cynnig gwiriadau pwysedd gwaed ac wedi llofnodi'r Addewid Menopos yn y Gweithle i sicrhau bod cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ar bob cam o’u bywydau.

“Mae ein rhaglen llesiant yn cynnwys cymorth ymarferol fel gweithio hyblyg, yswiriant meddygol preifat, y cynllun Beicio i’r Gwaith, hyfforddiant cymorth cyntaf, cyfarfodydd tîm dros frecwast a sesiynau ffisiotherapi am ddim. Rydym hefyd wedi trefnu diwrnodau i ffwrdd, gan gynnwys canŵio yn Symonds Yat a gweithgareddau awyr agored yn Llyn Llandegfedd, sydd wedi helpu i gryfhau cysylltiad a morâl y tîm.

“Un o’n gweithgareddau mwyaf uchelgeisiol oedd Her y Gweithle Iach, lle bu’r tîm gyda’i gilydd yn rhedeg, nofio, beicio, cerdded a heicio dros 2,500km mewn mis. Cafodd yr enillydd, yr ail a'r trydydd safle dalebau. Croesawodd y tîm cyfan yr her, ac roedd yn ffordd wych o gadw pawb yn egnïol ac yn frwdfrydig.

“Mae pobl yn gymaint mwy na’u swydd. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i'n tîm ofalu am eu hiechyd a'u llesiant yn ogystal â'u llwyth gwaith, ac rydyn ni wedi ymrwymo i'w cefnogi i wneud y ddau.”

CYFLE I GAEL CYFWELIAD:

Lleoliad: 22 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ

Dyddiad: Dydd Llun 30 Mawrth, 10.30am

Bydd Claire Griffiths a'i thîm ar gael i'w cyfweld a'u ffilmio yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd ddydd Llun 30 Mawrth.  Ar y diwrnod, bydd y tîm yn cael gwirio eu pwysedd gwaed ac yn cael sesiwn ffisiotherapi.  Byddant hefyd yn cael awyr iach yn ystod eu hegwyl ginio.   

Mae cyfle hefyd i’r cyfryngau gael cyfweliad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gais.