Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â rhwydwaith o arbenigwyr data sy'n ceisio datrys heriau iechyd mwyaf dybryd y DU

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn derbyn cyllid o hyd at £400,000 dros ddwy flynedd i ymuno â rhwydwaith cenedlaethol o arbenigwyr sy'n gweithio i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu iechyd a gofal heddiw, yn genedlaethol ac yng Nghymru.

Y Labordy Data Rhwydweithiol, a grëwyd gan yr elusen annibynnol y Sefydliad Iechyd, yw'r rhwydwaith cyntaf o'i fath, gan ddwyn ynghyd dimau dadansoddi o bob rhan o'r wlad er mwyn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r ffactorau sy'n effeithio ar iechyd pobl yn y DU.

Er bod cyfoeth o ddata eisoes y gellid eu defnyddio i roi darlun cliriach o anghenion iechyd y wlad – gan gynnwys gan feddygon teulu a gwasanaethau arbenigol hyd at ofal ysbyty ac awdurdodau lleol – mae'r Sefydliad Iechyd yn esbonio bod y wybodaeth hon yn aml yn ddarniog iawn ac nid yw'n cofnodi pob un o'r gwasanaethau iechyd a gofal y mae pobl yn debygol o'u derbyn. 

Mae'r Labordy Data Rhwydweithiol yn ceisio mynd i'r afael â'r her hon drwy ddefnyddio data cysylltiedig a gofnodwyd yn lleol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a defnyddio hyn i greu canfyddiadau unigryw a fydd yn helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn genedlaethol ac yn lleol i ddeall anghenion eu cymuned yn well, gwella gwasanaethau presennol a chynllunio dulliau arloesol newydd o ddarparu gofal.

Mae'r meysydd lle y gallai'r Labordy Data Rhwydweithiol greu canfyddiadau pwysig yn cynnwys nodi a lliniaru effaith COVID-19 ar grwpiau agored i niwed sy'n gwarchod.  Ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, gallai data gwell helpu i nodi pobl hŷn a allai gael budd o ymyriad cynnar i leihau nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty. A gallai data gwell nodi bylchau mewn gofal i'r rhai â salwch meddwl difrifol, gan helpu gwasanaethau i flaenoriaethu gofal i'r rhai sydd â'r angen mwyaf a lleihau’r nifer o bobl sy'n cyrraedd pwynt argyfwng.

Eglura Sarah Deeny, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dadansoddeg Data ar gyfer Iechyd Gwell, yn y Sefydliad Iechyd:

‘Yr hyn a fu'n amlwg drwy gydol yr argyfwng COVID-19 yw bod data a gwybodaeth yn aml yn allweddol i ddatrys ein materion iechyd a gofal mwyaf dybryd. Maent wedi chwarae rhan sylfaenol o ran deall yr heriau a gyflwynir gan y feirws ac o ran dod o hyd i ffyrdd arloesol o weithio a datrys problemau. Ond mae'r heriau cymhleth hyn yn ymestyn y tu hwnt i'r argyfwng presennol – rhaid i ni fod yn gallach yn y dyfodol i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal yn diwallu anghenion pobl.

‘Y newyddion da yw bod pobl yn byw yn hirach nag erioed o'r blaen ond mae gan fwy ohonom gyflyrau iechyd hirdymor, ac mae anghydraddoldebau iechyd cynyddol gyda'r rhai yn yr ardaloedd tlotaf yn profi iechyd llawer gwaeth. Mae angen dulliau arloesol arnom o ddarparu gofal i gleifion a gwell dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad os ydym yn mynd i ateb yr heriau hyn.’

Eglura Alisha Davies, Arweinydd Labordy Data Rhwydweithiol Cymru (NDL Cymru) a Phennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

‘Mae'n bleser gennym ymuno â'r rhwydwaith cydweithredol o dimau dadansoddol ar draws y DU fel NDL Cymru. Bydd y rhaglen gyffrous ac arloesol hon yn ein galluogi i gyflymu'r defnydd o ddata cysylltiedig er mwyn mynd i'r afael â chwestiynau allweddol ym maes iechyd.

‘Bydd gweithio mewn ffyrdd newydd gyda Labordai Data Rhwydwaith y Sefydliad Iechyd ar draws y DU yn ein galluogi i ddarparu dealltwriaeth amserol a manylach o heriau iechyd perthnasol iawn sy'n wynebu Cymru a'r DU.

‘Gyda'n gilydd gallwn wneud y defnydd gorau posibl o ddata rheolaidd i fynd i'r afael ag iechyd, atal ac anghydraddoldebau ar draws cenedlaethau, a chreu canfyddiadau gwerthfawr i lywio penderfyniadau er mwyn gwella iechyd y boblogaeth yng Nghymru.’  

Gan weithio gyda thîm yn y Sefydliad Iechyd, bydd dadansoddwyr yn NDL Cymru yn defnyddio'r un cod ystadegol, a byddant yn datblygu cynlluniau dadansoddi ar y cyd i ddadansoddi setiau data iechyd a gofal cysylltiedig. Bydd y tîm Sefydliad Iechyd yn rhoi cymorth ac arweinyddiaeth ar reoli prosiectau, cynllunio dadansoddiadau, rhaglennu ystadegol a rennir, a syntheseiddio canfyddiadau. Bydd y Sefydliad hefyd yn rhannu'r hyn a ddysgir a'r cod a ddefnyddiwyd i ddadansoddi, er mwyn sicrhau effaith yn genedlaethol ac yn lleol.

Darganfyddwch fwy am y Labordy Data Rhwydweithiol yma: https://www.health.org.uk/funding-and-partnerships/the-networked-data-lab