Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymrwymo i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn TB yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 24 Mawrth 2025

**ASTUDIAETH ACHOS isod**

Gwahoddir y cyfryngau i ddod i’r Symposiwm TB drwy apwyntiad

Mae twbercwlosis (TB) yn parhau i fod yn bryder difrifol i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Er bod modd ei atal a’i wella, mae TB yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled y wlad.  

Yn ôl yr Adroddiad Blynyddol Twbercwlosis yng Nghymru diweddaraf, bu cynnydd yn nifer yr achosion yng Nghymru o 84 yn 2023 i 95 yn 2024, sy’n codi’r gyfradd ddigwydded o 2.7 i 3.0 fesul 100,000 o bobl. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar bobl i fod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau TB ac i geisio cymorth meddygol os byddant yn profi peswch parhaus am gyfnod o fwy na thair wythnos, chwysu yn ystod y nos, colli pwysau heb esboniad neu dymheredd uchel. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i gryfhau strategaethau atal, gwella mynediad at gael diagnosis cynnar, a sicrhau bod pobl yn cael triniaeth brydlon i leihau lledaeniad TB. Mae rhaglen sgrinio strategol yn cael ei datblygu ynghyd â gweithgarwch sgrinio a thriniaethau penodol a fydd yn targedu’r cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf. 

Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth a hybu cynnydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal am y tro cyntaf erioed Symposiwm Diwrnod Twbercwlosis y Byd Cymru yng Nghaerdydd ar 24 Mawrth. Bydd y digwyddiad yn dod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi, ymchwilwyr, a chleifion ynghyd i rannu mewnwelediadau a sbarduno cynnydd yn yr ymdrechion i atal, canfod a thrin TB.  

Mae thema Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Diwrnod Twbercwlosis y Byd 2025, sef 'Gallwn! Gallwn Ddileu TB: Ymrwymo, Buddsoddi, Cyflawni’ yn galw am weithredu brys ac atebolrwydd. Er bod modd atal, trin a gwella TB, mae'n parhau i fod yn her ddifrifol i iechyd y cyhoedd. Mae TB yn effeithio’n anghymesur ar gymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, gan gynnwys y rhai sy’n profi digartrefedd, yn mudo, yn camddefnyddio sylweddau neu’r rhai sydd yn y carchar. Mae mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd hyn yn hanfodol i ddileu TB.  

ASTUDIAETH ACHOS: Mae Lizzy, sy’n ddarlithydd 38 oed, wedi brwydro yn erbyn TB dros y flwyddyn ddiwethaf. Bu’n dioddef o flinder eithafol ac anhawster anadlu am fisoedd ar ôl cael diagnosisau o heintiau ar y frest i ddechrau. Er bod ganddi hanes o iechyd da, cafodd ddiagnosis o TB. Ar ôl taith driniaeth anodd dros 15 mis, mae hi bellach yn rhydd o TB. 

Dywedodd: “Cefais sioc ond roedd yn rhyddhad pan gefais ateb o'r diwedd. Roedd y driniaeth yn galed. Wnes i golli pwysau, roeddwn i wedi blino'n lân drwy’r amser a bu’n rhaid i mi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith. Effeithiodd ar fy mywyd personol a phroffesiynol.  Roedd y profiad yn drawmatig, ond roeddwn i’n lwcus o gael mynediad at ofal a chymorth gwych.   

“Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol bod TB yn gallu bod yn segur am flynyddoedd cyn dod yn actif. Mae’n hanfodol bod pobl yn adnabod y symptomau ac yn ceisio cymorth yn gynnar.”  

Dywedodd yr Athro Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae TB yn dal i fod yn bresennol yn ein cymunedau, ac mae’n parhau i fod yn her iechyd sylweddol. Mae’r cynnydd mewn achosion o TB yng Nghymru yn amlygu’r angen dybryd am strategaethau atal cryfach a gwell mynediad at ddiagnosis cynnar. Drwy sicrhau bod pobl yn cael triniaeth brydlon, gallwn amddiffyn ein cymunedau rhag y clefyd difrifol hwn, sydd hefyd yn un y gellir ei atal. 

“Mae ymrwymiad Cymru i ddileu TB yn gryfach nag erioed. Mae Symposiwm Diwrnod Twbercwlosis y Byd Cymru yn gyfle allweddol i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd ac amlygu’r camau gweithredu yn ein brwydr i ddileu TB.”  

Dywedodd Tabitha Kavoi, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd ac Arweinydd TB yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae TB yn parhau i fod yn fater difrifol i iechyd y cyhoedd, ond mae modd ei atal a’i wella. Mae diagnosis cynnar a thriniaeth brydlon yn hanfodol i atal TB rhag lledaenu.  Os byddwch chi’n profi symptomau fel peswch parhaus dros gyfnod o dair wythnos, chwysu yn ystod y nos, colli pwysau heb esboniad neu dwymyn, ceisiwch gyngor meddygol ar unwaith. Drwy godi ymwybyddiaeth, gwella’r broses o wneud diagnosis cynnar a sicrhau mynediad teg at driniaeth, gallwn symud yn nes at ddileu TB yng Nghymru.  

“Mae Symposiwm Diwrnod Twbercwlosis y Byd yn gyfle i uno gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi, a chymunedau yn ein hymrwymiad ar y cyd i gael dyfodol heb TB yng Nghymru.”