Cyhoeddwyd: 3 Mai 2023
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi sicrwydd i rieni ar ôl i nifer bach iawn o achosion o gymhlethdod prin o enterofeirws achosi myocarditis mewn babanod ifanc iawn.
Mae deg babi o ardal De Cymru wedi cael triniaeth ysbyty ar gyfer yr haint ers mis Mehefin 2022. Roedd pob un o dan fis oed. Yn drist iawn, mae un babi wedi marw.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio bod yr adwaith hwn i'r haint yn parhau'n brin iawn. Meddai Dr Christopher Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru;
“Mae enterofeirws yn haint cyffredin yn ystod plentyndod, gan achosi amrywiaeth o heintiau gan gynnwys clefyd anadlol, clefyd y dwylo, y traed a'r genau, a llid feirysol yr ymennydd. Mewn babanod ifanc iawn, gall enterofeirws, mewn achosion prin, hefyd achosi salwch difrifol yn ystod wythnosau cyntaf bywyd. Mae'r rhan fwyaf o blant a babanod yn gwella'n llwyr yn dilyn haint enterofeirws.
“Dim ond ar adegau prin iawn y mae'n effeithio ar y galon. Mae'r clwstwr yn anarferol oherwydd nifer yr achosion a nodwyd o fewn amser byr, ac felly mae ymchwiliadau'n mynd rhagddynt bellach ar y cyd â'r tîm pediatrig yn ysbyty plant Cymru er mwyn deall y rhesymau pam ac i ymchwilio i unrhyw achosion pellach y gellir eu nodi yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
“Dylid rhoi sicrwydd i rieni, er y bu cynnydd mewn achosion, mae hwn yn dal i fod yn ddigwyddiad prin iawn.”
Dylai rhieni a gofalwyr gymryd gofal i ymarfer hylendid dwylo da – gan gynnwys golchi dwylo yn drylwyr cyn ac ar ôl newid cewynnau, ar ôl defnyddio’r toiled, a chyn paratoi bwyd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn briffio gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru i roi gwybod iddynt am y clwstwr.
Nid oes achos brigiad o achosion wedi'i ddatgan.
Mae'r cynnydd mewn myocarditis (llid a niwed i'r galon) mewn babanod ifanc iawn yng Nghymru yn dal yn destun ymchwiliad. Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr yma a ledled y DU i geisio deall hyn ymhellach.
Mae enterofeirws yn haint cyffredin sy'n lledaenu drwy'r boblogaeth bob blwyddyn, gyda brigiadau mwy o achosion yn digwydd yn rheolaidd, yn aml bob tair blynedd.
Mae clefyd difrifol a myocarditis yn un o gymhlethdodau a gydnabyddir yn helaeth yr haint hwn, ond mae'n brin iawn. Er y bu cynnydd yn nifer yr achosion mewn babanod ifanc iawn (o dan un mis oed), mae'n dal yn brin.
Y ffordd orau o atal haint enterofeirws, yn ogystal â feirysau eraill, yw drwy fesurau hylendid syml fel golchi dwylo yn enwedig ar ôl newid cewynnau, mynd i'r toiled neu chwythu eich trwyn.
Mae'r rhan fwyaf o heintiau feirysol mewn babanod yn ysgafn, ond os ydych yn pryderu bod eich babi yn sâl, ceisiwch sylw meddygol.
Mae haint enterofeirws yn salwch plentyndod tymhorol cyffredin iawn, ac mae'n achosi'r heintiau sydd fel arfer yn ysgafn sy'n aml yn cael eu codi yn ystod plentyndod fel clefyd y dwylo, y traed a'r genau
Mewn rhai achosion prin iawn, fel mewn babanod ifanc iawn o dan fis oed, gall enterofeirysau achosi haint difrifol, fel myocarditis, llid feirysol yr ymennydd neu sepsis.
Mae'r risg unigol o drosglwyddo enterofeirws yn isel iawn, ac mae'r myocarditis difrifol wedi bod mewn babanod o dan fis oed. Mae atal trosglwyddo i unigolion eraill mewn aelwyd neu ward fel arfer drwy fesurau hylendid arferol fel golchi dwylo, gwaredu cewynnau mewn modd hylan a glanhau pwyntiau cyffwrdd ac arwynebau'n rheolaidd.
Os oes gan eich babi dwymyn dilynwch y cyngor gan GIG 111 Cymru.
Mae achosion difrifol iawn o enterofeirws wedi bod yn dangos nodweddion sepsis. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sepsis ar y dudalen hon.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda chydweithwyr ledled y DU ac ymchwilwyr ISARIC, yn dal i ymchwilio i ffactorau a allai gyfrannu at ddifrifoldeb yr haint. Ni allwn roi manylion am achosion personol.