Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, wedi penodi Iain Bell yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus i arwain ei waith i adeiladu a pharatoi data, gwybodaeth ac ymchwil i wella iechyd a llesiant ledled Cymru.
Bydd Iain yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Gorffennaf o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, lle yr oedd yn arfer bod yn Ddirprwy Ystadegydd Cenedlaethol ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Poblogaeth a Pholisi Cyhoeddus.
Yn fwyaf diweddar mae Iain wedi bod yn ymwneud yn helaeth ag arwain ymateb yr ONS i bandemig COVID-19, gan gynnwys Arolwg Heintiau COVID-19, sydd wedi bod yn hanfodol wrth fonitro a deall cwrs y pandemig ar draws y DU, a hefyd wrth gynnal Cyfrifiad 2021 yn llwyddiannus yng Nghymru a Lloegr mewn ffordd ddiogel o ran COVID-19.
Cyn hynny, gweithiodd Iain mewn llywodraeth, ac roedd yn Brif Swyddog Data a Phennaeth y Proffesiwn ar gyfer ystadegau yn yr Adran Addysg. Yn ystod ei yrfa, mae hefyd wedi gweithio ym maes ystadegau'r llywodraeth sy'n rhychwantu'r farchnad lafur, cyllid llywodraeth, cludiant, cyfiawnder, gwaith, pensiynau ac ystadegau addysg, ac mae wedi arbenigo mewn manteisio ar bŵer data hydredol, gweinyddol ochr yn ochr ag arolygon i wella'r broses o wneud penderfyniadau.
Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'n bleser gennyf groesawu Iain i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus. Mae hon yn rôl arweinyddiaeth ganolog yng Nghymru ac mae Iain yn dod â chyfoeth o sgiliau a phrofiad a fydd yn amhrisiadwy i ni a'n partneriaid wrth i ni barhau drwy bandemig y Coronafeirws ac ar ôl hynny.
“Mae data, gwybodaeth ac ymchwil iechyd cyhoeddus o ansawdd uchel ac amserol yn hanfodol i lywio'r penderfyniadau, y camau gweithredu a'r datblygiad polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth sydd eu hangen i sicrhau adferiad teg i Gymru gyfan. Gan adeiladu ar waith cryf y tîm, rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Iain wrth i ni gefnogi pobl Cymru i greu dyfodol iach a chynaliadwy.”
Meddai Iain Bell: “Drwy gydol fy ngyrfa rwyf wedi bod yn angerddol am ystadegau polisi cymdeithasol a chyhoeddus, gan gynnwys troseddu, iechyd, yr amgylchedd, poblogaeth a mudo. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu'r gwaith gwych y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn ei wneud, a harneisio hyn i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bob defnyddiwr – o'r dinesydd hyd at wraidd y llywodraeth – i wella polisi cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.”
Graddiodd Iain mewn ystadegau o Brifysgol Heriot-watt ac mae wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus mewn llywodraeth cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.