Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi sefydlu rhaglen waith i sicrhau parhad busnes yn dilyn Brexit, yn arbennig mewn sefyllfa o “ddim cytundeb”.
Mae’r rhaglen waith i oruchwylio ein hymateb i Brexit yn cael ei harwain ar y cyd gan Dr Quentin Sandifer, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, a’r Athro Mark Bellis, ein Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol.
Mae cydweithwyr yn canolbwyntio ar barhad busnes, diogelwch iechyd, effeithiau ehangach a mwy hirdymor Brexit ar iechyd y cyhoedd, a’r goblygiadau i’n staff a’n hadnoddau.
Fel rhan o’r rhaglen, mae’r tîm yn gwneud gwaith penodol ar gynllunio parhad er mwyn sicrhau ein bod yn gallu lleihau unrhyw amharu posibl.
Rydym hefyd yn gwneud gwaith ar y cyd gyda Public Health England yn ymwneud â sicrhau bod trefniadau priodol wedi eu sefydlu ar gyfer swyddogaethau allweddol iechyd y cyhoedd, fel gwyliadwriaeth, ymatebion brys, gwrth-fesurau/brechlynnau ac epidemioleg maes.
Dywedodd Dr Quentin Sandifer: Mae Brexit yn gyfnod ansicr iawn i bawb, ond hoffwn sicrhau cydweithwyr bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod ein gwasanaethau allweddol yn gallu parhau a bod ein staff yn cael y wybodaeth a’r cyngor angenrheidiol.
“Rwyf yn cael fy sicrhau gan yr holl waith caled sydd yn cael ei wneud ar draws y sefydliad, a hoffwn ddiolch i’n holl gydweithwyr sydd yn cyfrannu at ein parodrwydd ar gyfer Brexit.”
Anogir staff sydd yn wladolion yr UE i edrych ar y wybodaeth sydd wedi ei chynllunio ar eu cyfer ar ein mewnrwyd yn: http://howis.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/74664
Gallwch hefyd wedi fideo gan ein Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol, Phil Bushby, yn sôn am ein cynlluniau i gefnogi staff trwy Brexit: http://howis.wales.nhs.uk/sitesplus/888/news/61059