Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lasio astudiaeth ar brofiadau ac iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd

Cyhoeddwyd: 26 Chwefror 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio astudiaeth newydd i archwilio sut y mae profiadau yn ddiweddarach mewn bywyd yn effeithio ar iechyd a llesiant yng Nghymru.

Mae'r astudiaeth, a gynhaliwyd ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol John Moores Lerpwl, yn ceisio gwella dealltwriaeth o effeithiau trallod yn ddiweddarach mewn bywyd fel camarfer, gwahaniaethu, ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Bydd y canfyddiadau'n helpu i lywio ffyrdd o gefnogi pobl hŷn yng Nghymru yn well.

Mae trigolion 60 oed a throsodd o gartrefi a ddewiswyd ar hap ledled Cymru yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.

Bydd cyfwelwyr profiadol o DJS Research Ltd yn cynnal yr arolwg cyfrinachol a dienw rhwng Chwefror ac Ebrill 2025, a disgwylir i’r canfyddiadau gael eu cyhoeddi yn hydref 2025.

Dywedodd Karen Hughes, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae deall yr heriau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu yn hanfodol i wella iechyd a lles. Bydd yr astudiaeth hon yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i helpu i lunio polisïau a gwasanaethau cymorth i oedolion hŷn yng Nghymru."

I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru, ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru