Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio offeryn proffilio Clystyrau Gofal Sylfaenol newydd

Cyhoeddwyd: 27 Mawrth 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio offeryn proffilio Clystyrau Gofal Sylfaenol newydd i helpu rhanddeiliaid i ddeall a defnyddio data clwstwr gofal sylfaenol yn well. Mae’r offeryn yn darparu proffil cryno, sy’n galluogi defnyddwyr i ddelweddu dangosyddion allweddol ar gyfer pob clwstwr o fewn bwrdd iechyd ar yr un pryd. Gall defnyddwyr hefyd gymharu data dangosyddion â chyfartaleddau byrddau iechyd a Chymru gyfan. Yn ogystal, cynhwysir naratif byr sy'n amlygu canfyddiadau allweddol o'r data.

Mae clwstwr gofal sylfaenol yn dod â gwasanaethau iechyd a gofal lleol ynghyd—fel practisau meddygon teulu, deintyddion, a fferyllfeydd cymunedol—o fewn ardal ddaearyddol. Mae dros 60 o glystyrau yng Nghymru, pob un yn gwasanaethu tua 30,000 i 35,000 o bobl, er y gall hyn amrywio fesul ardal.

Mae’r offeryn yn cyflwyno 15 o ddangosyddion iechyd allweddol ar gyfer pob clwstwr, gan gwmpasu meysydd fel amddifadedd, marwolaethau y gellir eu hosgoi, cyflyrau cronig, a derbyniadau brys. Mae’n galluogi defnyddwyr i nodi’n gyflym glystyrau sydd â chyfraddau sylweddol uwch neu is ar gyfer y dangosyddion hyn o gymharu â chyfartaledd y bwrdd iechyd neu’r cyfartaledd cenedlaethol.

Drwy wneud y mewnwelediadau hyn yn fwy hygyrch, bydd yr offeryn yn cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, arbenigwyr iechyd y cyhoedd, cynllunwyr ariannol, llunwyr polisi, a rhanddeiliaid eraill i dargedu ymyriadau yn fwy effeithiol, gan helpu yn y pen draw i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Ar gyfer pob bwrdd iechyd, mae canfyddiadau allweddol yn cyd-fynd â’r data, a ddatblygwyd ar y cyd ag Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r offeryn ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Dywedodd Nathan Lester, Pennaeth Tîm Dadansoddi Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"Mae'r offeryn proffilio Clystyrau Gofal Sylfaenol newydd yn gam cyffrous ymlaen yn ein hymrwymiad i ddarparu data craff o ansawdd uchel ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Mae cymharu dangosyddion fel marwolaethau a nifer yr achosion o glefydau ar draws gwahanol glystyrau bellach yn haws nag erioed o'r blaen. Mae'r offeryn hwn yn darparu adnodd hanfodol i lywio ymdrechion i wella iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau."

Bydd yr offeryn proffilio yn cael ei lansio ar 27 Mawrth 2025 ac mae ar gael:

Clystyrau Gofal Sylfaenol, crynodeb o ddangosyddion, Cymru, 2025